Newidiadau iechyd dros gyfnod yr haf

Disgrifiad o'r llun, Bydd Uned M芒n Anafiadau Dinbych-y-pysgod yn parhau i weithredu gwasanaeth arferol o ddydd Llun i ddyd Gwener

Bydd gwasanaeth meddygol newydd yn cael ei brofi yn Ninbych-y-pysgod ar benwythnosau rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Y Groes Goch fydd yn cynnal y gwasanaeth peilot yn ysbyty'r dref, a hynny yn ystod g诺yl y banc mis Awst hefyd.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ochr yn ochr 芒'r gwasanaeth m芒n anafiadau yn yr wythnosau cyntaf er mwyn caniat谩u i'r bwrdd iechyd asesu effeithiolrwydd.

Bydd Uned M芒n Anafiadau Dinbych-y-pysgod yn parhau i weithredu'r gwasanaeth arferol yn ystod yr wythnos dros yr un cyfnod.

Dywedodd Sue Lewis, o Fwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae cael y ddarpariaeth yma drwy'r Groes Goch yn adlewyrchu awydd y bwrdd iechyd i sefydlu partneriaethau wrth weithio gyda'r trydydd sector mewn dull mwy arloesol.

"Bydd hefyd yn rhyddhau nyrsys yr adrannau brys er mwyn iddynt fedru defnyddio eu sgiliau proffesiynol i gryfhau a chefnogi'r gwasanaethau prysur yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg."

Dywedodd Nigel Davies, uwch reolwr gwasanaeth y Groes Goch: "Rydym yn falch iawn o'r cyfle i fedru profi'r gwasanaeth newydd yma yn Ysbyty Dinbych-y-pysgod yr haf hwn.

"Gr诺p o unigolion cymwys fydd yn cynnal y gwasanaeth, a byddant yn defnyddio eu profiad wrth ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau cyhoeddus er mwyn darparu gofal o'r ansawdd gorau ar gyfer pobl sy'n ymweld 芒'r ysbyty.

"Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch yn mynychu ystod eang iawn o ddigwyddiadau, yn gystadlaethau chwaraeon i gyngherddau cerddorol enfawr mewn stadiwm. Pan fo damweiniau'n digwydd neu salwch yn taro, bydd eu gwybodaeth yn hanfodol wrth ddarparu triniaeth ac atal niwed pellach."

Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng Gorffennaf 14 a Medi 7.