Ymgyrch dros ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu ymgynghori ar ymestyn Ysgol Pwll Coch yn barhaol.

Bydd ymgyrchwyr yn cynnal cyfarfod brys yng Nghaerdydd ddydd Iau, i drafod penderfyniad Cyngor Caerdydd yngl欧n ag ysgol newydd.

Yn dilyn ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn, mae'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn dweud bod y cyngor wedi gaddo adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Grangetown y ddinas, gan olygu bod disgyblion ychwanegol yn mynd i Ysgol Pwll Coch dros dro.

Mae'r cyngor yn bwriadu ymgynghori i wneud hynny'n drefniant parhaol.

Cyfarfod brys

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn dweud bod hyn yn gwbl groes i'r addewid a roddwyd, a bod y safle a gafodd ei chlustnodi ar gyfer ysgol Gymraeg, nawr yn cael ei hystyried ar gyfer ysgol Saesneg.

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn cynnal y cyfarfod brys cyn i'r cyngor bleidleisio ar wneud y trefniant presennol yn un barhaol.

Maen nhw'n dweud bod yr arian ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd wedi ei chlustnodi yn barod, a bod y Llywodraeth wedi cytuno i'w hadeiladu.

Yn 么l y grwp mae'r penderfyniad yn annerbyniol, a gall y cyngor ddim troi ei chefn ar y cynllun gwreiddiol.

'Ymateb i alw'

Mae'r cyngor yn honni eu bod yn ymateb i alw am lefydd cyfrwng Cymraeg drwy ymestyn Ysgol Pwll Coch yn barhaol.

Dywedodd y Cynghorydd Julia Magill: "Mae angen i ni ymateb i'r galw cynyddol am leoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon."

"Nid yw trefn dros dro yn briodol mwyach, ac mae angen i ni ddechrau ymgynghoriad ym mis Medi ar gynnig i ymestyn Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn barhaol gyda rhaglen fuddsoddi lawn, i'w chwblhau erbyn Medi 2015."

Roedd y cyngor hefyd yn cydnabod bod angen mwy o waith i ateb y galw "cynyddol" am leoedd i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn yr ardal.

Beirniadaeth

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r penderfyniad, gan ddweud ei fod yn amhoblogaidd ymysg rhieni.

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud bod gan y cyngor ddyletswydd at yr iaith Gymraeg.

"Mae angen i Gyngor Caerdydd gymryd ei hymrwymiad i'r iaith o ddifrif."

"Ond yn fwy 'na dim, mae'n rhaid iddynt wrando ar yr hyn mae rhieni yn ddweud wrthynt fel y gall pob rhiant yng Nghaerdydd sydd eisiau i'w blentyn gael addysg Gymraeg allu gwneud hynny."