麻豆官网首页入口

Comisiynydd i edrych ar system gwyno

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Ms Huws nawr yn ystyried y pwyntiau mae'r gymdeithas wedi eu codi

Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws wedi addo edrych ar y pryderon sydd wedi cael eu codi gan Gymdeithas yr Iaith.

Mewn cyfarfod gyda Ms Huws ar faes y Sioe Frenhinol brynhawn Mercher fe wnaeth y gymdeithas alw am adolygiad o'r system gwyno.

Yn 么l y gymdeithas mae sawl achos diweddar o bobl yn gwneud cwyn i'r comisiynydd a derbyn ymateb anfoddhaol yn dangos bod diffygion yn y system.

Dywedodd swyddfa Ms Huws bod y cyfarfod wedi bod yn "gyfeillgar a buddiol".

Llythyr

Mewn llythur at y comisiynydd mae'r gymdeithas wedi cyfeirio at dri achos diweddar lle maent yn teimlo bod ymateb Ms Huws wedi bod yn ddiffygiol.

Un ohonynt oedd cwyn Gwion Schiavone fod cwmni yswiriant Admiral wedi gwrthod cynnig gwasanaeth cyfrwng Gymraeg iddo dros y ff么n.

Dywedodd llefarydd ar ran Meri Huws ar y pryd nad oedd "gorfodaeth statudol ar gwmni Admiral i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg".

Mae'r ddau achos arall yn ymwneud 芒 diffyg cydymffurfiaeth honedig Cyngor Torfaen gyda'u cynllun iaith a sefyllfa grwpiau chwarae yn Sir y Fflint.

Mewn llythyr at y comisiynydd, dywedodd Sian Howys ar ran y gymdeithas: "Yn ddiweddar, mae nifer o bobl wedi cysylltu 芒'r Gymdeithas i fynegi eu rhwystredigaeth gyda natur anfoddhaol eich system gwyno...

"Mae'r achosion... yn codi cwestiynau mawr am drefn cwynion y comisiynydd, ac am eich swyddogaeth fel eiriolwr i siaradwyr Cymraeg.

"Mae'r gymdeithas wedi dadlau ers blynyddoedd dros greu comisiynydd y Gymraeg, ond mae'n rhaid i'r swyddogaeth honno fod yn un sy'n ymateb yn gadarnhaol i bryderon siaradwyr Cymraeg ac yn mynd ati yn rhagweithiol i ddefnyddio'i phwerau i'w llawn botensial.

"Yn sgil yr achosion hyn yn benodol rydym yn galw arnoch i weithredu er mwyn sicrhau nifer o newidiadau a chynnal adolygiad o'r system derbyn a delio gyda chwynion...

"Pan gafodd y Mesur Iaith ei basio, cawson ni addewid y byddai gan bobl Cymru hawliau iaith clir. Os yw'r hawliau i gael eu parchu a'u gwireddu, bydd rhaid i'r comisiynydd fod a system gwyno gadarn iawn. Ar hyn o bryd, nid oes un gyda hi."

'Cyfeillgar'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd: "Mewn cyfarfod cyfeillgar a buddiol gyda swyddogion ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg fe ddywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg y byddai'n edrych ar nifer o bwyntiau a godwyd gan y Gymdeithas ynghylch trefn gwyno'r Comisiynydd.

"Roedd y pwyntiau yn cynnwys y dull o gysylltu 芒'r comisiynydd, sut mae derbyn tystiolaeth a sut gall y comisiynydd hwyluso'r broses i'r achwynydd o gyflwyno cwyn.

"Bydd y Comisiynydd y cwrdd gyda swyddogion y Gymdeithas eto yn hwyrach yn y flwyddyn.

Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Crag Farrar, ar 么l y cyfarfod: "Mi gawson ni gyfarfod adeiladol efo'r Comisiynydd ac mi wrandawodd hi ar ein pryderon ni. Roedd hi'n derbyn ein pwyntiau, ac mae hi wedi cytuno i adolygu'r system gwynion cyn gynted 芒 phosibl. Rydan ni'n edrych ymlaen at gael yr amserlen ar gyfer hynny felly."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol