Betsi: Penderfynu ar ffordd ymlaen

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun i fynd i'r afael efo'r problemau sydd yn bodoli

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau adroddiad beirniadol gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf.

Fe wnaeth yr adroddiad ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny o ganlyniad yn rhoi iechyd cleifion mewn perygl.

Yn dilyn hyn fe benderfynodd prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd y bydden nhw'n ymddiswyddo unwaith byddai eraill wedi eu darganfod i gymryd eu swyddi.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "derbyn casgliadau'r adroddiad yn llawn ac yn ddiamod yn ogystal 芒'r argymhellion mae'n gynnwys".

Ffordd ymlaen

Mae'r bwrdd iechyd wedi pennu dogfen sy'n cynnwys cynllun er mwyn mynd i'r afael 芒'r problemau.

Mae'n cynnwys sefydlu 't卯m llywodraethu a darparu arweinyddiaeth' fydd yn cael ei gadeirio gan gadeirydd bwrdd iechyd arall.

Bydd yn ystyried sut y gellir cyflwyno gwelliannau i'r ffordd mae'r bwrdd yn cael ei redeg, yn delio gyda diogelwch cleifion ac yn cyfathrebu gydag aelodau staff.

Mae'r ddogfen yn dweud: "Rydym yn derbyn bod angen gwella llywodraethiant, arweinyddiaeth a threfniadau rheoli'r bwrdd er mwyn ein galluogi i wasanaethu cymunedau gogledd Cymru'n well.

"Mae'r bwrdd yn ceisio adennill hyder staff a rhanddeiliaid wedi iddyn nhw gael eu difrodi o ganlyniad i gynnwys yr adroddiad."

Cafodd y cyfarfod i drafod y ddogfen ei gadeirio gan yr Athro Merfyn Jones sydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll lawr o'r r么l unwaith mae'r bwrdd wedi apwyntio cadeirydd newydd.

Bydd prif weithredwr y bwrdd Mary Burrows hefyd yn rhoi'r gorau i'w swydd, yn ogystal ag is-gadeirydd y bwrdd Dr Lyndon Miles.