麻豆官网首页入口

'Methiannau' gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysoges CymruFfynhonnell y llun, Mick Lobb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi ymddiheuro, a thalu 拢1,000 o iawndal

Roedd ysbyty yn ne Cymru wedi methu wrth ofalu am ddynes oedrannus, a fu farw yn ddiweddarach, yn ol adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Daeth yr achos i'r amlwg wedi i deulu'r ddynes 82 oed gwyno am nyrsys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-Bont.

Roedden nhw'n pryderu nad oedd nyrsys wedi galw am feddyg pan gafodd y claf ei chludo i'r adran gofal brys, a nad oedd staff yr ysbyty yn gwneud pob ymdrech i gadw'r claf yn fyw.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi derbyn argymhellion yr adroddiad i adolygu dulliau gweithredu, a rhoi mwy o hyfforddiant i staff nyrsio.

Mae'r bwrdd hefyd wedi ymddiheuro i deulu'r claf, a thalu 拢1,000 o iawndal.

Cwyn

Cafodd cwyn ei wneud wedi i'r claf, sydd ddim yn cael ei henwi, gael ei chludo i'r ysbyty ym mis Gorffennaf 2010.

Dywedodd ei merch, oedd wedi gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, nad oedd ei mam wedi cael y driniaeth gywir, a ni chafodd meddyg ei alw, er sawl cais gan y teulu.

Mae'r ferch yn credu bod y diffyg gofal meddygol wedi arwain at farwolaeth ei mam ychydig ddiwrnodau wedyn.

Mae adroddiad yr Ombwdsman yn feirniadol o fethiant y staff meddygol i ddelio gyda'r claf pan gyrhaeddodd hi'r ysbyty.

Er hynny, nid oedd tystiolaeth i ddangos bod y methiannau hyn wedi arwain at farwolaeth y claf.

Dywedodd yr adroddiad y dylai'r bwrdd iechyd ymddiheuro a thalu iawndal, ac adolygu hyfforddiant i nyrsys.

Gweithredu

Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn hynny, a dywedodd llefarydd:

"Ym mis Mai - yn rhannol fel ymateb i ddrafft o'r adroddiad yma gan yr Ombwdsmon - cafodd t卯m arbennig ei sefydlu gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i ymchwilio i bryderon am safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac i weithredu newidiadau ar frys."

"Mae'r bwrdd a th卯m clinigol wedi gweithredu yn gyflym, ac mae rhai mesurau wedi eu gweithredu yn barod."

Dywedodd y bwrdd bod Prif Nyrs wedi penodi yn yr ysbyty, bod hyfforddiant yn cael ei bwysleisio, a bod mwy o nyrsys wedi eu penodi hefyd.

Daw sylwadau'r Ombwdsmon ddyddiau ar 么l i ymchwiliad gan 麻豆官网首页入口 Cymru ddarganfod honiadau o esgeulustod yn ymwneud 芒 chlaf oedrannus arall.

Roedd yr honiadau yna hefyd yn ymwneud ag Ysbyty Tywysoges Cymru.

Ar y pryd fe alwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, am ymchwiliad cyhoeddus.