麻豆官网首页入口

Ann Clwyd: dyfarniad Manning yn annheg

  • Cyhoeddwyd
Bradley ManningFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bradley Manning yn dweud iddo ryddhau'r dogfennau i ddechrau trafodaeth am bolisi tramor yr Unol Daleithiau

Mae Bradley Manning, y milwr Americanaidd a ryddhaodd miloedd o ddogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks, wedi ei gael yn euog o ysbio, ond yn ddieuog o gynorthwyo'r gelyn.

Mae Manning, a gafodd ei fagu yn Sir Benfro, wedi ei gael yn euog o 20 cyhuddiad, yn cynnwys lladrad a thwyll cyfrifiadurol.

Mae Bradley Manning wedi cyfaddef iddo ryddhau'r dogfennau, ond mae'n honni iddo wneud hynny i danio trafodaeth yngl欧n 芒 pholisi tramor yr Unol Daleithiau.

Bydd Manning yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher, a gall wynebu hyd at 136 o flynyddoedd yn y carchar.

'Annheg'

Cafodd Preifat Manning ei addysg yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, ac mae ei fam yn dal i fyw yn Sir Benfro

Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi bod yn ymgyrchu ar ran teulu Bradley Manning.

Dywedodd bod y dyfarniad yn un annheg i'r milwr.

"Dwi'n falch nad ydy o'n euog o'r drosedd fwyaf, ond dydy ni ddim yn gwybod y ddedfryd eto."

"Dwi'n dal i deimlo bod hyn braidd yn annheg, a dwi ddim yn gwybod pa gyfrinachau doedd pobl ddim yn gwybod yn barod."

Dogfennau

Ymysg y dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Manning oedd fideo o hofrennydd Americanaidd yn lladd 12 o bobl yn ninas Baghdad yn 2007, gan gynnwys ffotograffydd i asiantaeth newyddion Reuters.

Cafodd 470,000 o adroddiadau cyfrinachol am ryfeloedd Irac ac Afghanistan eu rhyddhau, a 250,000 o negeseuon rhwng Washington a llysgenadaethau dros y byd.

"Beth sy'n anheg ydy bod y fyddin wedi dweud ei fod yn cael gadael, roedd Bradley ei hun yn meddwl ei fod yn cael gadael, ond oherwydd eu bod yn brin o bobl oedd yn gallu dadansoddi gwybodaeth filwrol, cafodd ei yrru i Irac," meddai Ann Clwyd.

"Dwi'n meddwl na'r bobl wnaeth ei yrru o yna, ddylen nhw ateb am hynny.

"Yn ail, ac mae ei deulu yn gofyn hefyd, pam dydy hwnnw oedd yn gyfrifol am ladd pobl o flaen llygad pawb, pam nad ydyn nhw o flaen llys?"

Bydd y broses o ddedfrydu yn dechrau ddydd Mercher.