麻豆官网首页入口

TGAU: Cyn weinidog yn dweud mai 'mater o egwyddor' oedd ailraddio

  • Cyhoeddwyd
Cymwysterau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llywodraeth yn y broses o sefydlu bwrdd cymwysterau newydd o'r enw Cymwysterau Cymru

Mae cyn Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, yn dweud bod y sylwadau diweddara' am ailraddio TGAU yn tanlinellu'r angen i ailstrwythuro'r corff arholi CBAC.

Roedd cyn gadeirydd CBAC, David Lewis, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn mewn modd "awdurdodaidd a di-glem" wrth fynnu fod papurau Saesneg TGAU yn cael eu hailraddio yn 2012, wedi i lai dderbyn gradd 'C' na'r disgwyl.

Dadl Mr Andrews, y gweinidog addysg ar y pryd, oedd bod y modd y cafodd y graddau gwreiddiol eu dyfarnu yn annheg.

Mewn ymateb i honiad Mr Lewis, dywedodd Mr Andrews fod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn adolygiad llawn.

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru ddydd Iau, dywedodd Mr Andrews: "Doedd CBAC ddim wedi arfer 芒 chael eu rheoleiddio. Roedden nhw'n credu eu bod yn bodoli mewn byd bach clyd, ble y gallan nhw gael gair bach tawel gyda'r llywodraeth a chael y canlyniad oedden nhw'n dymuno.

Yn ystod haf 2012 bu'n rhaid i filoedd o fyfyrwyr yng Nghymru aros nes derbyn eu canlyniadau Saesneg TGAU swyddogol oherwydd penderfyniad Mr Andrews i ailraddio'r papurau.

Sail y penderfyniad oedd cwynion bod llawer o fyfyrwyr a ddylai fod wedi derbyn gradd 'C' wedi derbyn gradd 'D' a'r rheswm am hynny, yn 么l rhai, oedd bod y ffiniau ar gyfer y graddau wedi cael eu codi.

Gan feirniadu'r ffordd aeth y llywodraeth ati i newid y graddau, dywedodd Mr Lewis: "Mae un gair ac awdurdodaidd yw hwnnw a hynny heb o reidrwydd, o ran be wnaethom brofi, dystiolaeth o ddealltwriaeth lawn o be' oedd y materion go iawn.

"Nawr mae hynny'n rhywbeth damniol i'w ddweud, ond dyna sut ddaeth e drosodd.

"Llywodraeth Cymru oedd y rhai di-glem yn hyn i gyd o'n safbwynt ni."

Ailraddio

Canlyniad yr ailraddio oedd dros 2,000 o fyfyrwyr yn derbyn gradd uwch na'r un a gafodd ei roi iddyn nhw yn wreiddiol.

Roedd Llywodraeth Cymru yn dadlau bod hyn yn rhywbeth i'w groesawu, a dywedodd y gweinidog addysg ar y pryd ei fod yn benderfynol o weld disgyblion "yn derbyn y graddau mae eu gwaith yn ei haeddu".

Ond fe wnaeth y penderfyniad achosi trafferthion i CBAC, gan mai nhw oedd yn gyfrifol am ailraddio'r papurau.

Roeddent hefyd yn dadlau ei fod yn bwysig bod disgyblion yng Nghymru a Lloegr yn cael yr un graddau am waith o'r un safon, gan honni bod y penderfyniad yn codi cwestiynau yngl欧n 芒 hynny.

Daeth David Lewis yn gadeirydd gweithredol CBAC yn fuan wedi'r ail-raddio.

Er ei fod yn cefnogi'r penderfyniad i wneud hynny, mae'n dadlau fod Mr Andrews wedi gwrthod ystyried cyngor yngl欧n 芒'r cymhlethdodau fyddai'n dilyn yn sgil hynny.

Dywedodd Mr Lewis: "Realiti'r sefyllfa oedd bod cymhlethdodau yn dilyn yn sgil hynny ac er iddo gael gwybod amdanynt - ac mae tystiolaeth o hynny - roedd o wedi anwybyddu'r peth, gan ddweud yn syml 'bwrwch ymlaen ag ef'."

'Chwerthinllyd'

Mae Leighton Andrews yn gwrthod yr honiadau'n llwyr, a dywedodd:

"Fe wnaeth y llywodraeth gynnal adolygiad rheoleiddiol llawn cyn yr ailraddio. Y casgliad oedd bod y canlyniadau yn annheg i fyfyrwyr Cymru. Wnaeth CBAC ddim ymrwymo i ailraddio, felly roedd rhaid gorchymyn hynny. Dyna b诺er y rheoleiddiwr. Does dim byd o'i le gyda hynny.

"Roedden ni'n deall cymhlethdodau'r sefyllfa. Ond doedd aelodau bwrdd CBAC ddim yn gweld pethau fel oedden nhw. Roedd yn fater syml o egwyddor. Materion syml oedd yn rhan o'r broses oedd y materion graddio ac roedd angen mynd i'r afael 芒 rheiny wedyn.

"Roedden ni'n amlwg yn rhoi blaenoriaeth i'r plentyn. O ganlyniad, cafodd bron i 2,400 o fyfyrwyr y graddau yr oedden nhw'n haeddu."

Mae CBAC wedi ymateb i honiadau Mr Lewis drwy ddweud fod amryw o broblemau wedi codi yn sgil yr ailraddio.

"Fe gododd amryw o anawsterau o agwedd Llywodraeth Cymru tuag at weithredu rhai o'i pholis茂au, yn arbennig yn ystod y cyfnod rhwng Hydref a Mai," meddai llefarydd ar eu rhan.

"Fe wnaeth bwrdd CBAC barhau i fod yn glir iawn mewn termau o'u cyfrifoldebau mewn cysylltiad 芒 safonau addysg a datblygu cymwysterau newydd i Gymru a Lloegr."

'Annealladwy'

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn safiad Mr Andrews.

Mewn datganiad maent yn dweud: "Mae'r honiadau hyn gan Mr Lewis yn annealladwy.

"Roedd y camau gymron ni'r flwyddyn ddiwethaf mewn cysylltiad 芒 TGAU Saesneg yn seiliedig ar dystiolaeth adroddiad gan swyddogion rheoleiddio.

"Roeddent yn gwbl addas, yn derbyn llawer o gefnogaeth ac yn bwysicach fyth fe wnaethant arwain at ganlyniad cyflym a theg yn dilyn anghyfiawnder i dros 2000 o fyfyrwyr Cymreig."

Mae Mr Lewis wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones i nodi ei bryderon.

Er ei fod yn gwrthod fersiwn Mr Lewis o'r digwyddiadau, dywedodd Mr Jones y byddai'n gofyn i Gyfarwyddwr Cyffredinol Addysg Llywodraeth Cymru, Owen Evans, i edrych ar y mater.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cael perthynas hirsefydlog ac amlochrog gyda CBAC ac rwyf yn cydnabod bod y berthynas hon, mewn rhai ardaloedd, wedi mynd trwy gyfnod anodd yn ddiweddar," ychwanegodd y prif weinidog.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol