G诺yl Ymylol Caeredin 2013

Disgrifiad o'r llun, Mae Caeredin yn paratoi i groesawu degau o filoedd o bobl i'r 糯yl Ymylol dros fis Awst
  • Awdur, Gan Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 麻豆官网首页入口 Cymru

Dros yr wythnosau nesaf bydd tua 3,000 o berfformiadau yn digwydd mewn theatrau, pebyll ac ar strydoedd Caeredin wrth i'r ddinas groesawi'r 糯yl Ymylol yn 么l am flwyddyn arall.

Erbyn hyn mae wedi'i gydnabod fel yr 诺yl gelfyddydol fwyaf yn y byd, ac mae perfformwyr o bedwar ban byd yn ysu am le ar lwyfan yr Alban ym mis Awst.

Disgrifiad o'r llun, Perfformiad o The Radicalisation of Bradley Manning o 2012

Eleni mae digwyddiadau di-rif gyda naws Gymreig yn ystod yr 诺yl. Mae dram芒u, sgiliau syrcas, perfformiadau comedi a dawns o Gymru i'w gweld yng Nghaeredin, gyda'r gobaith o ddenu cynulleidfa newydd a sylw'r hyrwyddwyr i'w gwaith.

Ffynhonnell y llun, Warren Orchard

Disgrifiad o'r llun, Bydd dwy ddrama gan Tim Price i'w gweld yn ystod yr 诺yl

Hanes Bardley Manning, y milwr a fu fyw am gyfnod yn sir Benfro, sydd wedi derbyn tipyn o sylw gan wasg yr 诺yl cyn i'r llenni godi. Bydd cynhyrchiad National Theatre Wales o'r ddrama The Radicalisation of Bradley Manning yn cael ei berfformio yn y ddinas ar 么l iddo ddenu clod cynulleidfaoedd Cymreig y llynedd. Mae'r cynhyrchiad wedi'i ddiweddaru er mwyn adlewyrchu'r ffaith fod Manning wedi ei gael yn euog o ysbio yn y dyddiau diwethaf.

Tim Price ysgrifennodd y ddrama, ac mae hefyd yn gyfrifol am sioe arall sydd wedi'i gynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar y cyd gyda theatr Traverse o Gaeredin. Mae "I'm With the Band" yn trafod sefyllfa'r Alban wrth i'r bleidlais am annibyniaeth yn 2015 nes谩u.

Disgrifiad o'r llun, Cast I'm With The Band, drama ar refferendwm yr Alban, yn ymarfer

Dywedodd Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd i gael gweithio gyda Traverse, theatr ddramodi newydd fwyaf blaenllaw'r Alban am y tro cyntaf, ac rydyn ni wrth ein bodd bod ein cynhyrchiad yn cael ei berfformio yng Nghaeredin, gan amlygu'r ddawn dramodi y mae gennym ni'r fraint o'i magu yma yng Nghymru."

Disgrifiad o'r llun, Cwmni syrcas o Gaerdydd yw NoFit State

Theatr y Torch o Aberdaugleddau sy'n mynd a'r actores Helen Griffin i Gaeredin i berfformio'i sioe llwyddianus Who's Afraid of Rachel Roberts, sydd eisoes wedi mynd ar daith trwy Gymru ond sy'n gobeithio denu sylw'r cyhoedd a beirniaid y papurau yng Nghaeredin. Bydd cyfle hefyd i brofi gwaith Dafydd James a'i gyfeillion yn y sioe gomedi 'y Name Is Sue, sydd yn addo "ffrwydro'r diflas er mwyn darganfod yr epig".

Disgrifiad o'r llun, Un o'r perfformwyr yn hedfan yn ystod Bianco

Sgiliau syrcas y cwmni o Gaerdydd, NoFit State, fydd i'w gweld mewn dau gynhyrchiad gwahanol yng Nghaeredin. Mae Bianco yn digwydd ym mhabell y cwmni, ac yn gyfle i weld y perfformwyr yn gwyrdroi eu cyrff a chyflawni gwyrthiau acrobatig o flaen, ac ymysg, y gynulleidfa. Mae'r cwmni hefyd yn perfformio Noodles, sioe ar lwyfan theatr gonfensiynol sy'n cynnwys perfformiadau corfforol anarferol.

Bob yn ail blwyddyn mae'r Cyngor Prydeinig yn hyrwyddo rhestr fer o gynyrchiadau i'r farchnad theatr ryngwladol, ac eleni bydd tri o Gymru ymhlith y cwmn茂au dan sylw: The Radicalisation of Bradley Manning gan National Theatre Wales, I'm With The Band gan Ganolfan Mileniwm Cymru a chwmni theatr Traverse, a Bianco gan NoFit State. Dwy flynedd yn 么l gafodd y ddrama Gymraeg Llwyth, gan Sherman Cymru a'r Theatr Genedlaethol, ei ddewis fel rhan o gynllun y Cyngor Prydeinig ac fe aeth y sioe ar daith i Taiwan o ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd.

Dywedodd John McGrath, cyfarwyddwr artistig National Theatre Wales: "Mae cael bod yn rhan o sioe arddangos y Cyngor Prydeinig yn destun cyffro mawr i ni am fod y Cyngor yn dethol y gwaith gorau o'r DU dros y blynyddoedd diwethaf. Mae sioe Cyngor Prydain yn denu hyrwyddwyr rhyngwladol i ddod i weld gwaith gyda'r nod o fynd ag ef ar daith. Mae The Radicalisation of Bradley Manning yn gynhyrchiad arwyddocaol iawn i ni, ac mae llawer o bobl yn dal i'w drafod nawr."

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn defnyddio'r cyfle i hyrwyddo'r holl gwmn茂au o Gymru sydd wedi teithio i Gaeredin mewn digwyddiad rhwydweithio ar ddiwedd yr 糯yl, sy'n para tan Awst 26.