麻豆官网首页入口

'Nifer fawr o gwynion' i'r Comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Meri Huws yn cyflwyno ei hadroddiad blynyddol cynta' fel Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno ei hadroddiad blynyddol cynta' mewn sesiwn holi ac ateb ar Faes yr Eisteddfod yn ddiweddarach.

Fe ddechreuodd Meri Huws yn ei swydd fis Ebrill y llynedd a dyma'r tro cynta' iddi adrodd yn 么l am ei gwaith dros y 12 mis diwetha'.

Mae'r adroddiad yn nodi iddi dderbyn 468 o gwynion ffurfiol yn ystod y cyfnod - roedd bron hanner yn ymwneud 芒'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Fis diwetha' addawodd Ms Huws edrych ar bryderon a godwyd gan Gymdeithas yr Iaith yngl欧n 芒 system gwynion Swyddfa'r Comisiynydd.

Yn 么l y gymdeithas, roedd sawl achos diweddar o bobl yn gwneud cwyn i'r comisiynydd a derbyn ymateb anfoddhaol yn dangos bod diffygion yn y system.

'Pwysig'

Yn yr adroddiad, mae Ms Huws yn dweud: "Mae delio 芒 chwynion yn bwysig, nid yn unig er mwyn gwella profiad yr unigolyn a wnaeth y g诺yn ond hefyd er mwyn adnabod y gwendidau sydd yn y ddarpariaeth Gymraeg.

"Fe welwch yn yr adroddiad hwn fod nifer fawr o gwynion wedi dod i law yn ystod y flwyddyn, ac maent yn ffynhonnell dda o dystiolaeth sy'n ein galluogi i weithio'n barhaus tuag at wireddu'r weledigaeth o Gymru lle na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg."

Mae'r adroddiad yn nodi rhai o'r ymchwiliadau a ddeilliodd o'r cwynion, gan gynnwys argymhellion a gyflwynwyd i Gyngor Sir Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (mae'r Comisiynydd yn parhau i fonitro ymateb y cyrff hyn i'r argymhellion) a'r Asiantaeth Safonau Gyrru (sydd eisoes wedi gweithredu'r argymhellion).

Fis Chwefror roedd y Comisiynydd o dan y lach wedi i Lywodraeth Cymru wrthod rhestr o safonau iaith a argymhellwyd ganddi.

Aeth un o gyn brif weithredwyr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, John Walter Jones, mor bell 芒 chwestiynu a oedd angen Comisiynydd y Gymraeg o gwbl.

Yn ei hadroddiad cynta', mae Ms Huws yn cyfeirio at y safonau drafft a gyflwynodd i Leighton Andrews, y Gweinidog oedd 芒 chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar y pryd.

Mae'r adroddiad yn dweud: "Trwy gynnal yr ymgynghoriad roeddem yn rhoi cyfle i bobl - yn unigolion, yn sefydliadau ac yn fudiadau - i ddweud sut roedden nhw am weld statws swyddogol y Gymraeg yn cael ei wireddu.

"Roedd yr ymarferiad hwn yn rhywbeth pwysig iawn yn fy ngolwg i ac yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth ynghylch beth sy'n rhoi statws i iaith."

Cyfrifiad

Un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y 12 mis diwethaf o safbwynt y Gymraeg oedd cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Mae Ms Huws yn dweud ei bod yn "siomedig" gyda'r ffaith fod y ganran o bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 20.8% yn 2001 i 19.0% yn 2011 (o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011) - gan gyfeirio yn arbennig at y cwymp yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.

"Mae'r ffeithiau yn dangos yr her yn glir iawn, ac yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i Lywodraeth Cymru brif ffrydio'r Gymraeg i bob un o'i phenderfyniadau polisi.

"Mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn diwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 ar fyrder er mwyn sicrhau na fydd datblygiadau cynllunio yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg."

'Pryder'

Mae'r Comisiynydd yn nodi "pryder" nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb eto i'r alwad i ddiwygio Tan 20, a rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg o fewn y system cynllunio a defnydd tir.

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011, cyhoeddodd y Comisiynydd y byddai'n sefydlu Arsyllfa, i gyflwyno argymhellion i wneuthurwyr polisi "fel y gallant weithredu'n gadarnhaol mewn perthynas 芒'r Gymraeg."

Ar hyn o bryd mae gan Swyddfa'r Comisiynydd 552 o gynlluniau iaith yn weithredol.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer y ddwy flynedd nesa'.

Mae'r amcanion yn cynnwys:

  • Dylanwadu ar yr ystyriaethau a roddir i'r Gymraeg mewn datblygiadau polisi

  • Gwrando ar farn a phryderon am y Gymraeg a cheisio sicrhau cyfiawnder i unigolion

  • Ehangu a chryfhau ymrwymiadau iaith Gymraeg sefydliadau a gwella profiad siaradwyr Cymraeg

  • Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg

  • Creu sefydliad iach a gweithredu'n briodol

Dylan Iorwerth fydd yn arwain y sesiwn holi ac ateb gyda'r Comisiynydd Meri Huws a hynny ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod am 3:00pm ddydd Llun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol