麻豆官网首页入口

Ysbyty Dinbych: Celf yr atgofion

  • Cyhoeddwyd
Hen ysbyty meddwl Dinbych
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysbyty Meddwl Dinbych yn sefydliad pwysig yn hanes y dre'

Bu diddordeb yn syth yn yr arddangosfa am hen Ysbyty Meddwl Dinbych yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod.

Ac erbyn dydd Sul yr oedd sawl un wedi bod yn nodi eu hatgofion nhw am yr ysbyty ar boteli moddion bychain.

Weithiau mae'r atgofion hynny'n uniongyrchol, weithiau yn rhai hyd braich, ond pob un yn fyr ac i bwrpas.

Un yn cofio ei fam yn dweud wrtho'n blentyn y byddai ei gamymddygiad yn ei anfon "i Ddinbach" yn y diwedd.

Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol 芒 Dinbych ddiwethaf yn 2001 go brin bod yr Ysbyty Meddwl, a oedd eisoes wedi cau, wedi ei grybwyll.

Eleni mae'n destun un o arddangosfeydd mwyaf poblogaidd Y Lle Celf ers blynyddoedd lawer a'r syniad wedi ei hen gyfiawnhau.

"Fedrwch chi ddim anwybyddu pwysigrwydd yr ysbyty oedd yma yn Ninbych," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

'Arbrofol a diddorol'

"Mi ddaru'r ysbyty gyfrannu i fywyd yr ardal yma, i fywyd trigolion gogledd Cymru ac felly roedden ni'n tybio y dylid dathlu hynny ac y dylid nodi hynny a'i fod o'n rhywbeth pwysig.

"Felly mae o'n rhywbeth arbrofol ac yn rhywbeth diddorol i'w wneud," meddai.

Un fu 芒 rhan amlwg yn trefnu'r arddangosfa gyda'r arlunydd Simon Proffitt yw'r actor Eilir Jones, a fu'n nyrs seiciatryddol yno am saith mlynedd yn y 1980au, gan ymuno'n 18 oed yn 1981.

Erbyn heddiw mae'r actor, a oedd yn nyrs go iawn, yn actio ei hen swydd mewn c么t wen fel rhan o'r arddangosfa ac yn gwahodd ymwelwyr i rannu eu hatgofion hwythau am sefydliad a oedd yn adnabyddus ar hyd a lled gogledd Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eilir Jones, fu'n gweithio yn yr ysbyty, yn actio nyrs fel rhan o'r arddangosfa

Mae'n teipio'r pytiau hynny o atgofion ar labelau sy'n cael eu gludo ar boteli moddion brown sy'n cael eu cadw ar silff.

"Dewiswch y botel da chi'n feddwl wnaiff y mwyaf o les i chi," meddai.

Mae'r atgofion o ychydig eiriau wedi denu llu o ddarllenwyr yn barod.

Atgofion potel

"Dwi'n cofio rhif ff么n yr ysbyty, Dinbych 7," meddai un sef yr enw a roddwyd ar yr arddangosfa ei hun.

Mae'r atgofion potel yn destun astudiaeth ynddi'i hun o ran amrywiaeth:

"Welis fy madfall cyntaf yn afon yr ysbyty."

"Gen i gyfnither sy'n cysgu dan garped 'cofn i'r nenfwd syrthio ar ei phen."

"Dwi'n cofio reidio beic lawr grisiau cartref y nyrsus."

"Roedd dad yn cyflenwi tatws i'r ysbyty."

"Roeddwn yn cas谩u trafeilio yno adeg eira o Dywyn."

"Roeddwn yn feddyg yno ac yn hapus iawn yno."

"Dwi'n cofio pawb yn smocio yn y caffi."

"Dwi'n cofio t芒n ffarm yr ysbyty."

"Mi wnes i fwynhau gweithio yno."

Atgofion hapus y gweithwyr

Rhan arall o Dinbych 7 ydi coridor o luniau o du mewn yr adeilad, sydd erbyn hyn wedi mynd 芒'i ben iddo, gyda sylwadau gan y staff.

Peintiwyd y waliau 芒 lliw sy'n atgoffa Eilir Jones o'r ysbyty pan oedd e'n gweithio yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna hefyd luniau o'r hen adeilad, gyda sylwadau gan y cyn weithwyr

Er i'r ysbyty, sydd ar gyrion tref Dinbych, daflu cysgod digon brawychus dros ogledd Cymru dros y blynyddoedd, dywedodd Eilir mai atgofion hapus sydd ganddo ef o weithio yno.

"Pan es i weithio yna gyntaf yr oedd yna rhyw ofn, be' oeddwn i'n mynd i'w weld ac yn mynd i'w glywed a be fasa'n rhaid imi ei wneud. Ond ar 么l ychydig mi aeth yr ofnau oni bai bod na rywun treisgar ofnadwy yn dod i mewn," meddai.

"Oedd, yr oedd yna bethau ofnadwy yn digwydd yna ond roedd yna bethau da yn digwydd yno hefyd, ac yr oedd yn lle hapus yn fy atgofion. Ond ella 'mod i wedi cael gwared 芒'r atgofion oedd ddim mor bleserus ond, o siarad efo pobl, roedd gweithio yno yn brofiad hapus.

"Roedd yr ofn cyn mynd yno i weithio yn waeth na'r ofn o weithio yno," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol