Pryder am amserlen y safonau iaith

Disgrifiad o'r llun, Sian Howys o'r Gymdeithas oedd yn arwain y drafodaeth - Aled Roberts yw'r ail o'r dde

Mae Aled Roberts wedi mynegi pryder na fydd y safonau iaith yn cael eu cyflwyno erbyn y flwyddyn nesaf.

Mewn cyfarfod trawsbleidiol ar faes yr eisteddfod dywedodd yr Aelod Cynulliad ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn poeni fod "amser yn llithro erbyn hyn" ac roedd yn cwestiynu a fydd y safonau yn eu lle erbyn Tachwedd 2014 yn unol gydag amserlen Llywodraeth Cymru.

Ym mis Chwefror fe gafodd y safonau hynny oedd wedi ei llunio gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg eu gwrthod gan Leighton Andrews oedd yn gyfrifol am yr iaith ar y pryd.

Dywedodd y Llywodraeth y byddent yn llunio rhai eraill.

Afresymol?

"Beth sydd yn fy mhoeni fi fwy na hynny ydy bod y llywodraeth yn y datganiad wedi gwneud hi yn glir fod yna ddau reswm pendant dros wrthod y safonau drafft, bod 'na anghydweld rhwng y comisiynydd a'r llywodraeth o ran gofynion statudol," meddai Aled Roberts.

"Ond hefyd bod 'na elfen arall, bod y llywodraeth yn dweud bod rhai o'r safonau drafft yn afresymol. Dw i ddim yn gweld fy hun pwy sydd yn penderfynu beth sydd yn rhesymol. Mae'r sefyllfa yng Ngwynedd hwyrach yn hollol wahanol i'r sefyllfa yn Wrecsam neu Glyn Ebwy."

Yn y cyfarfod ategodd Elin Jones o Blaid Cymru'r angen i Carwyn Jones weithredu, er mwyn peidio "gadael yr iaith Gymraeg i lawr".

Fe wnaeth Ms Jones gwestiynu os oes gan y Prif Weindog yr un brwdfrydedd tuag at yr iaith a'i rhagflaenydd, Leighton Andrews.

Dywedodd: "Fy mhryder i ydy wrth drosglwyddo cyfrifoldeb i Carwyn Jones, bod Leighton Andrews yn berson a rhyw fath o weledigaeth a brwdfrydedd dros y Gymraeg ac awydd i wneud ei farc yn y maes penodol yma. Gawn ni weld a fydd yr un wmff yn perthyn i Carwyn Jones."

'Newyddion da'

Ond dywedodd yr AC Llafur Keith Davies fod y ffaith mai Carwyn Jones sydd bellach yn berchen ar bortffolio'r Gymraeg yn "newyddion da" am ei fod yn gyfrifol am bob adran yn y llywodraeth.

Ond roedd yn pryderu bod dim digon o gyfleoedd i bobl ifanc i wneud gweithgareddau yn yr iaith:

"Mae hwnna yn broblem fawr i bobl sydd yn mynd i ysgolion Cymraeg - maen nhw yn dod mas o'r ysgol ac yn siarad Saesneg gyda'i gilydd.

"O'n i yn darllen bod yr Urdd wedi gwneud ryw ymchwil bod pobl ifanc wedi dweud wrth yr Urdd bod dim cyfleoedd i chwarae i gael yn y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae'n rhaid i ni edrych ar hwnna."

Yn y cyfarfod ddydd Llun roedd Cymdeithas yr Iaith yn galw am ehangu hawliau siaradwyr Cymraeg o fewn gofal iechyd, y gweithle ac amser hamdden. Roeddent yn lansio addewid ieithyddol ar y maes.