麻豆官网首页入口

'Angen llai o awdurdodau lleol'

  • Cyhoeddwyd
John Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae John Davies yn credu y gallai strwythur y byrddau iechyd gael ei ddefnyddio fel man cychwyn

Mae arbenigwr yn galw am gwtogi'r nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Yn 么l John Davies, cyn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r nifer presennol o 22 yn llawer gormod.

Dywedodd nad oedd digon o drafodaeth pan sefydlwyd y cynghorau ac y byddai cwtogi'r nifer yn arwain at system fwy effeithlon.

Mae comisiwn eisoes yn ystyried y mater ar ran Llywodraeth Cymru.

Rhy fach

Cafodd y 22 cyngor fel y maen nhw nawr eu sefydlu yn 1996 ac ers hynny mae llawer wedi awgrymu eu bod yn rhy fach ac y gallai arian gael ei arbed wrth leihau'r nifer.

Mae Mr Davies i'w weld yn ategu yr hyn ddywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ychydig fisoedd yn 么l, sef y gallai'r ffordd mae'r byrddau iechyd wedi cael eu trefnu fod yn fan dechrau ar gyfer y dyfodol.

"Ar hyn o bryd mae gennych chi fodel mor bell 芒'r trefniadau iechyd o ran y byrddau iechyd - mae yna saith ohonyn nhw," meddai Mr Davies, oedd yn arfer arwain Cyngor Sir Benfro.

"Mae cyd-weithio rhwng llywodraeth leol yn hanfodol o ran gwasanaethau cymdeithasol a iechyd - maen nhw'n perthyn yn agos ac yn plethu'n agos iawn i'w gilydd felly fan'na fyddwn i'n cychwyn."

Dywedodd Mr Davies y byddai hefyd yn gyfle i gael gwared ar lawer o wleidyddion, rhywbeth a fyddai'n boblogaidd ymysg dinasyddion yn 么l pob tebyg.

"Mae gormod o wleidyddion a gormod o gynghorau, does dim dwywaith am hynny," meddai.

"Er mwyn i Gymru gael cyfle i dyfu fwyfwy mae angen rhoi cynlluniau yn eu lle i wneud yn sicr fod ganom ni drefniant o ran llywodraeth leol i fynd a ni i'r ddegawd nesaf, a hyd yn oed yr hanner canrif nesaf."

Ail-strwythuro

Mae Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r ffaith bod mwy a mwy yn galw am ail-strwythuro pellach yn dilyn yr hyn sy'n cael ei weld fel methiant ad-drefnu 1996.

Sefydlwyd comisiwn, sy'n cael ei gadeirio gan gyn bennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru Paul Williams, er mwyn edrych i fewn i sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu'n gyffredinol yng Nghymru.

Mae'n debyg y bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn paratoi darn o waith ymchwil fydd yn ystyried faint o gynghorau fyddai'r nifer delfrydol ar gyfer Cymru.

Ond ni fydd unrhyw argymhellion yn cael eu gweithredu cyn yr etholiad Cynulliad nesaf yn 2016 - mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi gwneud hynny'n glir.

Wrth gyhoeddi'r comisiwn, dywedodd Carwyn Jones:

"Bydd cyllidebau'r sector cyhoeddus yn parhau i grebachu a'r pwysau arnyn nhw yn cynyddu, yn 么l pob golwg.

"Mae'n amlwg felly fod angen ystyried yn ofalus sut mae cynnal gwasanaethau a chodi safonau perfformio, fel y gall pobl Cymru barhau i gael y gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr y mae arnyn nhw eu hangen"

"Fel y gallwn weld o effaith penderfyniadau ariannol presennol Llywodraeth y DU, mae sector cyhoeddus iach yn hanfodol er mwyn sicrhau economi iach.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol