Lefel A: Digon o ddewisiadau

Ffynhonnell y llun, PA

  • Awdur, Gan Arwyn Jones
  • Swydd, Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru

Yfory ar hyd a lled Cymru yfory mi fydd miloedd o ddisgyblion yn cael gwybod eu canlyniadau Lefel A.

I nifer, mae'n agor y drws i addysg uwch a thair blynedd o brifysgol.

Ond fel ymhob blwyddyn arall, nid pawb fydd yn dathlu.

Yn 么l pennaeth chweched dosbarth Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, Jane Owen, mi fydd yna gymorth ar gael i'r rhai sy'n derbyn canlyniadau siomedig. Dywedodd:

"Os ydy pethau'n digwydd mynd i'r wal, fel petai, a bod nhw ddim yn cael y canlyniadau oedden nhw'n ei ddisgwyl i fynd i'w dewis cyntaf o brifysgol, neu hyd yn oed yr ail ddewis, mae hynny'n digwydd yn anaml iawn - wedyn maen nhw'n gwybod fy mod i a gweddill tiwtoriaid y chweched dosbarth ar gael i'w helpu nhw yn syth."

Cyflogau is

Graddedigion Cymru sydd fwyaf tebygol o gael swydd o holl wledydd Prydain, ond mae eu cyflogau yn debygol o fod yn is yn eu swydd gyntaf - 拢19,500 o gymharu 芒 拢21,000.

Ond nid dyna unig bwrpas mynd i brifysgol yn 么l un o ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd, Bronwen Hughes

"O'n i wastad yn gwybod fy mod i isio mynd i'r brifysgol. Gobeithio i gael gwell cyfle i gael swydd yn y dyfodol, ond hefyd i gwrdd 芒 phobl newydd a dysgu pethau newydd ac yn y blaen. Dwi wastad wedi licio dysgu, wastad wedi mwynhau'r ysgol felly dyna oedd y peth naturiol i fi, mewn gwirionedd."

Gweithio ym mhwll nofio Plas Madoc ger Wrecsam mae Aaron Davies. Mi gafodd o ei ganlyniadau Lefel A y llynedd ond mae wedi aros am flwyddyn er mwyn cynilo digon o arian cyn mynd i'r Central School of Speech and Drama yn Llundain.

"Mae hi'n ddigon anodd fel mae hi efo pwysau gwaith y cwrs ac ati, felly doeddwn i ddim am boeni am arian ar ben hynny. Felly dwi wedi cymryd amser allan i gael mwy o arian ar gyfer y tair blynedd yn Llundain"

'Peidiwch poeni'

Ond beth os nad ydy'r canlyniadau cystal 芒'r disgwyl o bell ffordd?

Wel y cyngor wedyn, yn 么l Rosie Davies o Gyrfaoedd Cymru, ydy cofio nad yw hynny'n ddiwedd y byd:

"Mae llawer o gyfleoedd eraill i gael felly y peth cyntaf i'w ddweud ydy i beidio poeni. Os ydyn nhw, efallai eisiau cael swydd mae yna Twf Swyddi Cymru lle mae yna restr o yrfaoedd ar gael lle maen nhw'n gallu gweithio am chwe mis a chael profiad am chwe mis a chael yr isafswm cyflog cenedlaethol a chael hyder pan fyddan nhw'n trio cael swyddi eraill yn y dyfodol."

Coginio sy'n diddori Katie Sheppard. Mae hi'n gweithio dros yr haf mewn gwesty ar gyrion Wrecsam. Felly cwrs arlwyo mae hi am ei wneud, yn hytrach na mynd i'r brifysgol...

"O'n i'n meddwl ei fod o'n well i fi oherwydd dydw i ddim yn dda iawn efo arholiadau. Dwi'n meddwl y byddai mynd i'r brifysgol yn ormod i mi ei wneud," meddai.

"Ar 么l gwneud arholiadau'r flwyddyn ddiwethaf yn yr ysgol o'n i'n gwybod nad dyna oedd orau i fi oherwydd ges i ddim mo'r canlyniadau o'n i isio i fynd i'r brifysgol."

Does dim dwywaith y bydd yfory yn ddiwrnod eithriadol o bwysig i nifer o bobl ifanc.

Ond os na eith pethau cystal 芒'r disgwyl, mae digon o ddewisiadau ar gael.