麻豆官网首页入口

'DU yn llai diwylliedig'

  • Cyhoeddwyd
Karl Jenkins
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Jenkins yn credu bod angen buddsoddi mwy yn y celfyddydau

Mae'r cyfansoddwr clasurol Karl Jenkins wedi dweud bod yr Almaen "yn gymdeithas fwy diwylliedig" na'r Deyrnas Unedig oherwydd penderfyniad y wlad i gynyddu'r gwariant cyhoeddus ar y celfyddydau.

Dywedodd Mr Jenkins, sy'n wreiddiol o Benclawdd sydd ym Mhenrhyn Gwyr ac sydd eisoes wedi beirniadu toriadau i gyllidebau celfyddydol, fod rhaid ystyried bod ariannu cyhoeddus yn ffordd o fuddsoddi mewn dyfodol diwylliannol y genedl.

Trasiedi

Wrth ymateb i doriadau gwariant ar y celfyddydau, dywedodd Mr Jenkins:

"Mae'n drasig. Yn yr Almaen, mae'r gwrthwyneb yn wir - mae'r ariannu yn cynyddu. Darllenais yn rhywle pan ofynnwyd 'sut mae modd gwneud hyn mewn cyfnod economaidd fel hyn?', yr ymateb oedd ein bod ni yn buddsoddi yn nyfodol diwylliannol ein gwlad, a dyna sut mae'n rhaid edrych ar y peth."

Fe ychwanegodd: "Mae modd dod i'r casgliad fod [yr Almaen] yn gymdeithas fwy diwylliedig, yn wlad fwy diwylliedig amwn i. Rwy'n meddwl fod y pethau hyn yn bwysig, ond dydw i ddim yn gwybod pa mor endemig mae hynny yma - os o gwbl."

Yn adolygiad gwariant llywodraeth y DU eleni, roedd gostyngiad o 5% yng nghyllid y celfyddydau.

Yng Nghymru, mae llywodraeth Cymru wedi clustnodi 拢34.13 miliwn i gael ei ddosbarthu gan y Cyngor Celfyddydau yn 2013/14, gostyngiad bychan ar y cyfanswm o 拢34.24 miliwn gafodd ei wario yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Yn yr Almaen mae'r gweinidog diwylliant Bernd Neumann wedi yng nghyllid y Bundeskulturstiftung, sefydliad diwylliant ffederal yr Almaen.

Cydnabod gwerth

Dwedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth y DU: "Mae'r ysgrifennydd diwylliant Maria Miller wedi diogeli setliad da yn ddiweddar ar gyfer y celfyddydau yn ystod yr adolygiad gwariant, ac sydd wedi'i chroesawi gan sefydliadau diwylliannol ledled y wlad.

"Mae gostyngiad o 5% i'r celfyddydau ac i amgueddfeydd yn dangos cydnabyddiaeth y llywodraeth o'u gwerth economaidd a chymdeithasol.

"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi'r celfyddydau, ac yn ystod tymor y senedd hon bydd y sector yn derbyn 拢2.9 biliwn - 拢1.888 biliwn yn uniongyrchol o'r llywodraeth, gyda mwy na 拢1 biliwn yn ychwanegol mewn arian Loteri."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau a diwylliant i Gymru, a sut mae'n helpu i ddiffinio ein hunaniaeth genedlaethol a sut rydym yn cyflwyno ein hunain i'r byd ehangach.

"Rydym hefyd yn cydnabod gwerth eang y celfyddydau ac oherwydd hynny, hyd yn oed yn yr oes heriol hon, byddwn yn parhau i ymdrechu i gefnogi ein celfyddydau a'n diwylliant yng Nghymru."

Adiemus

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dylanwad de America ar albwm newydd y cyfansoddwr

Mae gwaith Karl Jenkins yn cael ei berfformio o gwmpas y byd. Mae poblogrwydd dau o'i gyfansoddiadau ymhlith corau a cherddorfeydd, The Armed Man a Requiem, wedi ei wneud yn un o'r cyfansoddwyr sydd wedi'i berfformio fwyaf yn y byd.

Yn yr wythnosau diwethaf mae Jenkins wedi adfywio Adiemus, ei gyfres o recordiau a ddechreuodd ym 1995 ac sy'n defnyddio iaith ddychmygol a rhythm llwythol.

Mae'r albwm newydd, Adiemus Colores, yn llawn dylanwadau o dde America:

"Yn y b么n hwn yw Adiemus yn cwrdd ag America Ladin. Mae elfennau craidd Adiemus dal yn bodoli - yr iaith ddychmygol sy'n defnyddio'r llais fel offeryn yn hytrach na fel cludwr y naratif.

"Dydy'r canu ddim yn Ewropeaidd o ran ei arddull glasurol, mae hi fwy fel cerddoriaeth byd neu gerddoriaeth ethnig, gan ddefnyddio adran daro (y gerddorfa) fel sain rythmig.

"Felly mae'r elfennau (o'r Adiemus gwreiddiol) dal i fodoli ond mae'r sain rythmig a rhai o'r technegau lleisiol yn fwy tebyg i America Ladin, tra roedd Adiemus yn wreiddiol yn fwy Affricanaidd neu lwythol," meddai Mr Jenkins.

Albwm newydd

Mae'n ddeng mlynedd ers yr Adiemus ddiwethaf. Mae cyfansoddiadau'r albwm newydd wedi'u rhestru fel lliwiau yn Sbaeneg, sydd hefyd yn adlewyrchu t么n pob c芒n - "Amarilla" (melyn) yn cynrychioli disgleirdeb a "Roja" (coch) yn cynrychioli dwyster a theimladau angerddol.

Adlewyrchwyd thema America Ladin gyda phresenoldeb y tenor o Fecsico, Rolando Villaz贸n, sy'n perfformio gyda'r chwaraewr git芒r glasurol Milo拧 Karadagli膰 ar "Canci贸n Turquesa" (C芒n Wyrddlas).

Mewn fideo yn hyrwyddo'r albwm newydd, dywedodd Mr Villaz贸n:

"Cefais y gerddoriaeth ar gyfer y G芒n Wyrddlas ac yn syth roedd yna deimlad o gnawdolrwydd i'r gerddoriaeth. O'r dechrau gyda chordiau cyntaf y gerddorfa, roeddwn i'n teimlo fod y galon a'r enaid yn cael eu gwahodd i ddawnsio mewn ffordd gyddwysedig iawn.

"Mae'r iaith wedi'i ddyfeisio, ac yn agor i bob dehongliad ac yn gwahodd y dychymyg i ymuno, ond i ymuno mewn ffordd sy'n eich galluogi i ddilyn neges y gerddoriaeth, a dyna sy'n bwysig amdano."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol