Llongyfarch disgyblion TGAU

Disgrifiad o'r llun, Mae newidiadau i'r arholiadau wedi arwain ar raddau gwyddoniaeth is na 2012

Mae arweinwyr byd addysg yng Nghymru wedi bod yn croesawu cyhoeddi'r canlyniadau TGAU.

Roedd y safon ar y cyfan yn debyg iawn i'r flwyddyn ddiwethaf wrth i 65.7 y cant o ddisgyblion sicrhau graddau A* - C.

Bu gostyngiad yn nifer y disgyblion wnaeth lwyddo i gael y graddau uchaf mewn gwyddoniaeth a mathemateg

Ond newidiadau i'r ffordd roedd y papurau yn cael eu arholi yn ogystal 芒 pha ddisgyblion oedd yn sefyll yr arholiadau oedd yn bennaf gyfrifol am hynny yn 么l CBAC.

'Blwyddyn anodd'

Dywedodd ysgrifennydd NUT Cymru David Evans: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd ar gyfer addysg yng Nghymru gyda'r newidiadau mawr oherwydd diwygiadau polisi gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

"Yn ychwanegol mae mor芒l wedi bod yn isel o ganlyniad i ymosodiadau ar y proffesiwn gan Lywodraeth San Steffan. Mae'r ffaith fod y gyfradd basio uchel gafodd ei sicrhau'r flwyddyn ddiwethaf wedi cael ei chynnal er gwaetha'r heriau hyn yn destament i waith caled ag ymroddiad y disgyblion, y rhieni a'r athrawon.

"Mae canlyniadau heddiw'n rhai allwn ni gyd fod yn falch ohonyn nhw ac mae'n bwysig fod y disgyblion nawr yn derbyn y gefnogaeth gywir wrth iddynt symud ymlaen yn yr ysgol ac mewn llefydd eraill."

Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Philip Dixon yn pryderu am y bwlch rhwng canlyniadau merched a bechgyn

'Canlyniadau gwych'

Dywedodd Dr Philip Dixon, cyfarwyddwr Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru: "Mae heddiw'n berchen i bobl ifanc Cymru wedi iddyn nhw, gyda chymorth eu hathrawon, gael canlyniadau gwych.

"Mae'n rhaid ystyried eu cyflawniad yn erbyn y cefndir o newidiadau i fanylebau'r arholiadau a meini prawf cynyddol anodd. Mae ein pobl ifanc wedi ymdopi'n dda efo'r heriau newydd ac mae'r bwlch cyrhaeddiad gyda Lloegr wedi lleihau'n sylweddol mewn sawl man.

"Mae'n braf gweld y gwellhad yng nghanlyniadau ieithoedd tramor modern.

"Yn y dyfodol efallai bydd llunwyr polisi eisiau ystyried pa mor ddoeth yw gadael i ddisgyblion ymgeisio'n gynnar a pham mae'r bwlch rhwng merched a bechgyn yn parhau."

Mae'r gwahaniaeth yng ngraddau bechgyn a merched yn parhau i fod yn destun pryder i lawer ym myd addysg.

Fe wnaeth y bwlch cyrhaeddiad rhyngddynt gynyddu'r flwyddyn hon, wrth i 7.6% o ferched gael A* o'i gymharu 芒 4.6% o fechgyn.

Roedd y gwahaniaeth i'w weld ar draws y graddau uchaf - cafodd 22.8% o ferched raddau A* - A o'i gymharu 芒 15.4% o fechgyn, ac fe gafodd 70.2% o ferched raddau C neu uwch. Dim ond 61.1% o fechgyn lwyddodd i wneud hynny.

Disgrifiad o'r llun, Mae Chris Keates yn credu y dylai'r dadansoddi aros am ychydig

'Diwrnod i ddathlu'

Mae Chris Keates, ysgrifennydd cyffredinol NASUWT, yn credu y dylai'r dadansoddi aros gan mai diwrnod i'r disgyblion ddathlu yw heddiw.

"Mae'r canlyniadau hyn yn uchafbwynt wedi swm anferth o waith caled gan ddisgyblion a'u hathrawon. Mae angen eu llongyfarch nhw i gyd ar eu llwyddiant.

"Yn anffodus, bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi a'u tynnu'n ddarnau gan wleidyddion a gohebwyr, ond diwrnod i ddathlu yw heddiw a thrysori'r canlyniadau sydd wedi eu cyflawni gan ddisgyblion Cymreig."