Llai o arian i golegau addysg bellach Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywed Colegau Cymru bod arbedion wedi eu gwneud yn barod yn y sector
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol

Mae colegau addysg bellach wedi cael awgrym bod toriadau pellach ar y gorwel.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai colegau wynebu toriad o 5% flwyddyn nesaf.

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi ysgrifennu at y sector yn dweud nad oes yna benderfyniad terfynol eto.

Ond mae'r corff sydd yn cynrychioli colegau addysg bellach wedi dweud y byddai'n anodd iddyn nhw ymdopi gyda'r toriad.

Dim penderfyniad

Mae'r llywodraeth wrthi yn llunio cynlluniau gwariant ac mae disgwyl i ddarlun cliriach ddod i'r golwg pan fyddan nhw'n cyhoeddi drafft o'r gyllideb ym mis Hydref.

Mewn llythyr y mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi ei weld mae Mr Lewis yn dweud bod y llywodraeth yn edrych eto ar yr arian sy'n cael ei roi i golegau addysg bellach wedi i'r Canghellor George Osborne gyhoeddi ei adolygiad gwariant ym mis Mehefin.

"Er nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud ar gyllidebau yn y dyfodol mae sefydliadau wedi cael gwybod y dylen nhw gynllunio ar gyfer toriad o o leiaf 5% yn 2014-15," meddai.

Dywed y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Colegau Cymru i leihau effaith unrhyw doriadau ar addysg.

'Toriad mawr'

Yn 么l Colegau Cymru, y corff sy'n cynrychioli colegau addysg bellach, mae'r sector eisoes wedi gorfod gwneud arbedion gan nad yw'r arian maen nhw wedi ei dderbyn yn y gorffennol wedi codi gyda chwyddiant.

"Mae 5% yn doriad mawr ar gyfer colegau," meddai'r Prif Weithredwr John Graystone.

"Mae hynny yn cynrychioli tua 拢15m - 拢20m felly mae'n mynd i fod yn anodd i golegau gyflawni yn unol 芒'u hagenda gyfredol..."

Dywed fod colegau yn gorfod ceisio taclo'r cyfyngiadau ariannol a darparu sgiliau ac y bydd rhaid iddyn nhw "bwyso a mesur y blaenoriaethau a gweld beth y gallan nhw ei wneud."

Mae colegau addysg bellach wedi cael gwybod yn ddiweddar y byddan nhw yn cael toriad pellach o 1.5%. Mae hynny yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua 拢310m yn y sector.

Mae'r gweinidog yn cydnabod y pryderon am y toriadau ac yn benodol y newyddion diweddar am y gyllideb ar gyfer 2013-14.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y sector yn bwysig i'r llywodraeth a'u bod wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.