麻豆官网首页入口

Ysgol Gymraeg: Pwyllgor yn craffu

  • Cyhoeddwyd
Plant yn chwarae gyda thywod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Cyngor Caerdydd, byddai "buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn Ysgol Pwll Coch"

Mae pwyllgor craffu plant a phobl ifanc Cyngor Caerdydd yn cwrdd brynhawn Mawrth i drafod penderfyniad Cyngor Caerdydd i fwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar ymestyn y ddarpariaeth sydd ar gael yn Ysgol Pwll Coch.

Ymhlith y rhai sydd wedi'u gwahodd i gyflwyno tystiolaeth yn y cyfarfod y mae rhieni lleol, aelodau Ymgyrch TAG (Trebiwt a Grangetown), cyfreithiwr mygedol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Pwll Coch.

Yn 么l ymgyrchwyr mae'r penderfyniad yn mynd yn groes i addewid y cyngor i adeiladu ysgol cyfrwng Gymraeg yn ardal Grangetown.

Mae'r cyngor yn bwriadu sefydlu trydedd ffrwd barhaol yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch - dywed rhai mae trefniant dros dro oedd hwn i fod tra roedd ysgol Gymraeg newydd yn cael ei hadeiladu.

Ond mae Cyngor Caerdydd yn gwadu eu bod nhw wedi addo adeiladu ysgol Gymraeg newydd gan ddweud nad oes safle erioed wedi cael ei glustnodi ar gyfer un yn ardal Grangetown.

'Torri cytundeb'

Yn 么l Dr Dyfed Wyn Huws, cyd-gadeirydd ymgyrch TAG: "Mae'r cyngor wedi torri'r cytundeb i adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Grangetown, ac yn hytrach yn cynnig ymestyn Ysgol Pwll Coch, a leolir yn Nhreganna (sydd eisoes gyda dros fil o leoedd ysgol cynradd cyfrwng Cymraeg), mewn ymgais amhriodol i gwrdd 芒'r galw.

"Rydym yn credu bod y cabinet wedi gweithredu'n annoeth ar sail rhagdybiaethau annilys, a thrwy hynny fethu yn eu dyletswydd i gwrdd ag anghenion addysgol ein plant."

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ym mis Medi ar gynllun i wneud y trefniant o anfon plant i Ysgol Pwll Coch yn un parhaol.

Yn 么l y cyngor byddai hyn yn ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ardaloedd Grangetown, Treganna a Glan-yr-afon Caerdydd.

'O'r radd flaenaf'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Yn wahanol i'r cynnig a gyflwynwyd yn gynharach eleni, a gynlluniwyd i fod yn drefniant dros dro, byddai'r cynnig hwn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad cyfalaf llawn ym Mhwll Coch a fyddai'n sicrhau amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf erbyn mis Medi 2015, a fydd o fudd i boblogaeth ehangach yr ysgol gan gynnwys y plant sy'n mynychu'r ysgol ar hyn o bryd.

"Mae'r cynigion newydd yn delio 芒 rhai o'r materion a godwyd mewn ymgynghoriad blaenorol. Mae hwn yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn yr ysgol, gan gynnwys neuadd, ystafelloedd dosbarth, cyfleusterau chwarae, parcio a mynediad newydd.

"Rhaid i'r Cyngor gynllunio i ddiwallu'r angen am lefydd ysgol Cymraeg, Saesneg a Ffydd yn ogystal 芒 chynnig i ymgynghori ar estyn Pwll Coch.

"Mae hefyd yn ystyried y posibilrwydd o estyn ysgolion sydd eisoes yn bodoli mewn ymateb i'r galw cynyddol am lefydd cynradd Saesneg o dai sy'n bodoli a datblygiadau a gynigir o fewn dalgylch Ysgol Uwchradd Fitzalan. Byddai unrhyw gynigion o'r fath yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol