麻豆官网首页入口

Prifysgolion: 'Angen adolygiad annibynnol'

  • Cyhoeddwyd
graddedigionFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pob myfyriwr Cymreig sy'n mynd i brifysgol ar draws y ffin yn costio 拢4,500 i Lywodraeth Cymru.

Gall 麻豆官网首页入口 Cymru ddatgelu fod prifysgolion yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o'r ffordd y maent yn cael eu hariannu.

Ar hyn o bryd, mae degau o filiynau o bunnoedd o'r gyllideb addysg uwch yma yn mynd i brifysgolion mewn rhannau eraill o'r DU.

Oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn talu'r rhan fwyaf o ffioedd dysgu myfyrwyr Cymreig, ble bynnag y byddant yn dewis astudio yn y DU, mae prifysgolion yma yn dweud nad ydynt yn cael eu trin yn deg o gymharu gyda'u cymheiriaid yn Lloegr.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, cadeirydd Addysg Uwch Cymru, y corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymreig, wrth 麻豆官网首页入口 Cymru pe byddai'r arian ar gyfer y Grant Ffioedd Dysgu yn cael ei wario yng Nghymru, y gellid ei ddefnyddio nid yn unig i wella eu gallu ymchwil ond hefyd i wella'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.

'Colli cyfleoedd'

Mae'r Athro Riordan yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i'r sector addysg uwch, a bod eu cyllid wedi gwella o flwyddyn i flwyddyn. Ond dywedodd y gallai mwy gael ei wneud gyda'r degau o filiynau o bunnoedd sydd yn gadael y sector addysg uwch Cymreig ac yn mynd i brifysgolion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Pe byddem yn gallu cadw'r holl arian sy'n cael ei ddarparu i addysg uwch yng Nghymru, byddai'n amlwg yn rhoi cyfle i ni nad oes gennym ar hyn o bryd.

"Cyfleoedd nid yn unig i brifysgolion o ran eu hymchwil sy'n gwbl hanfodol ar gyfer y dyfodol yr economi wybodaeth yng Nghymru, ond hefyd o ran ein myfyrwyr y gellid eu cefnogi'n well mewn prifysgolion Cymreig pe bai'r cyllid yn cael ei roi i brifysgolion Cymru. "

Pan wnaeth llywodraeth y DU ganiat谩u ffioedd dysgu prifysgolion i godi, roedd gweinidogion Cymru yn awyddus i leddfu'r effaith ar fyfyrwyr Cymreig.

Mae myfyrwyr o Gymru yn talu 拢3,500 o'u ffioedd dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r gweddill ble bynnag maent yn astudio yn y DU.

Yn yr Alban, mae'r llywodraeth hefyd yn talu ffioedd myfyrwyr o'r Alban, ond dim ond os ydynt yn astudio ym mhrifysgolion yr Alban.

Ar gyfartaledd, mae prifysgolion Lloegr yn codi tua 拢8,000 y flwyddyn mewn ffioedd dysgu.

Mae'n golygu y bydd y 7,370 o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf eleni o Gymru sy'n astudio mewn rhannau eraill o'r DU yn cymryd mwy na 拢33 miliwn gyda nhw, cyllid a allai fod wedi cael ei ddefnyddio yn y sector addysg uwch yma, yn 么l Addysg Uwch Cymru.

'Cyfrifoldeb i bawb'

Nid oedd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn medru ymateb, ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn nodi sylwadau'r Athro Riordan.

"Rydym yn credu bod gennym gyfrifoldeb i bob un o'n myfyrwyr lle bynnag y byddant yn dewis astudio yn y DU.

"Fel yr ydym wedi amlinellu ar nifer o achlysuron, bydd cyfanswm yr incwm sydd ar gael i'r sector addysg uwch yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol o'i gymharu 芒'r model cyllido blaenorol.

"Cadarnhaodd cylchlythyr cyllid diweddaraf Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hyn - yn wir, y cynnydd cyfartalog yn y cyllid ar gyfer sefydliadau AU yng Nghymru yw 13.8% yn 2013 /14.

"Rydym wedi cadarnhau'n gyson bod y polisi wedi cael ei gostio'n llawn ac y mae'n gynaliadwy ar gyfer oes y Llywodraeth hon.

"Mae'n bryd i gydnabod tra bod y polisi yn golygu bod swm sylweddol o grant ffi yn cael ei dalu i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn sefydliadau yn Lloegr, mae hefyd yn bwysig ystyried bod Cymru yn fewnforiwr net o fyfyrwyr o rannau eraill o'r DU.

"Mae sefydliadau yng Nghymru yn derbyn llawer mwy o incwm ffioedd o'r myfyrwyr hynny nag ydym yn talu grant ffioedd i sefydliadau yn Lloegr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol