Toriad pellach o 20% i fentrau iaith

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Y Cyngor: "Yn anffodus, mae'n rhaid edrych ar bob gwariant ar draws yr adrannau".

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnau bod y tair menter iaith o fewn y sir yn wynebu toriad pellach o 20% yn eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol nesaf (2013-14).

Mae Menter Iaith Bro Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth a Menter Gorllewin Sir G芒r eisoes wedi cael toriad o 10% yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Dywedodd y cyngor y byddai'r toriad o 20% yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw flaenoriaethau a nodir gan y Gweithgor Cyfrifiad sydd wrthi yn casglu tystiolaeth ynghylch y ffordd orau o ddiogelu a hyrwyddo'r iaith.

'Penderfyniadau ariannol anodd'

Dywedodd y cyngor: "Gallwn ni gadarnhau fod toriad o 20% wedi bod yng nghyllideb y Mentrau Iaith ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013/14, ond dylid nodi fod y gyllideb hon wedi ei neulltio ar gyfer mynd i'r afael 芒'r materion a ddaw i'r amlwg o ganlyniad i waith Gweithgor y Cyfrifiad.

"Mae trafodaethau ar waith o ran cyllideb 2014/15, ond mae'r Cyngor a'r Mentrau yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau fod pawb yn ymwybodol o'r sefyllfa.

"Mae'r Cyngor yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd, ac yn anffodus, mae'n rhaid edrych ar bob gwariant ar draws yr adrannau".

Yn 么l ffigurau'r cyfrifiad fe wnaeth nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir ostwng i lai na 50% am y tro cyntaf erioed.

Y sir welodd y cwymp mwyaf yng Nghymru - sef 6.4%