Cynllun credyd cynhwysol o dan y lach

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l yr Adran Gwaith a Phensiynau bydd y cynllun "yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb ac o fewn yr amserlen."

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno un taliad cynhwysol yn lle sawl budd-dal gwahanol wedi eu cyflwyno ar frys ac wedi eu rheoli'n wael, yn 么l y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Dywed hefyd bod 拢30 miliwn wedi ei wastraffu ar systemau cyfrifiadurol sydd ddim yn gweithio.

Mae Iain Duncan Smith, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, wedi amddiffyn y cynlluniau gan ddweud bod y problemau technegol wedi eu datrys.

Dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol bod risgiau wedi eu cymryd gyda'r credyd cynhwysol er mwyn cyrraedd targedau, a bod dull rheoli prosiect anghyfarwydd wedi cael ei ddefnyddio.

Mae cyflwyno'r budd-dal newydd yn genedlaethol wedi cael ei ohirio yn dilyn y trafferthion technolegol.

Ond dydd Iau dywedodd Mr Duncan Smith wrth y 麻豆官网首页入口: "Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb ac o fewn yr amserlen."

Cynllun peilot

Dywedodd fod y cynllun peilot, sydd wedi dechrau gyda 1,000 o bobl yn ardal Manceinion, "yn dangos bod y dechnoleg yr ydym yn cyflwyno ar gyfer hyn yn gweithio" .

Ond ar ran y blaid Lafur fe wnaeth Liam Byrne gyhuddo Mr Duncan Smith o gamarwain Aelodau Seneddol a'r cyhoedd am gyflwr y system newydd.

"Mae bellach yn gwbl glir bod Iain Duncan Smith wedi colli pob rheolaeth ar ei adran, ac mae bellach wedi colli rheolaeth ar y gwirionedd" meddai.

Ymhlith newidiadau eraill i'r system les, mae cynllun Credyd Cynhwysol yn dod i rym yn lle'r lwfans ceisio gwaith, y lwfans cyflogaeth a chymorth, cymhorthdal incwm, credydau treth plant, credydau treth gwaith a budd-dal tai.