E-lyfrau Cymraeg ar gael ar y Kindle

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Bellach mae dros 100 o e-lyfrau Cymraeg ar werth ar gyfer y Kindle

Mae gwasg Y Lolfa wedi cael caniat谩d gan gwmni Amazon i werthu e-lyfrau Cymraeg ar gyfer y Kindle.

Roedd Y Lolfa, ynghyd 芒 Chyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi galw ar Amazon i werthu'r e-lyfrau.

Bellach mae dros 100 o e-lyfrau Cymraeg ar gael i'w lawrlwytho, gan gynnwys y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Sir Ddinbych eleni.

Yn gynharach eleni casglodd Y Lolfa dros 5,000 o enwau ar ddeiseb yn galw ar Amazon i ganiat谩u cyhoeddi e-lyfrau Cymraeg ar y teclyn darllen ac i ychwanegu'r Gymraeg fel un o ieithoedd swyddogol y cwmni.

Dyfais electroneg ar gyfer ddarllen e-lyfrau yw'r Kindle sy'n cael ei chynhyrchu gan Amazon.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Amazon: "Rydym yn gweithio ar ychwanegu mwy o ieithoedd trwy ein porth KDP trwy'r amser ac mae'r Gymraeg yn un iaith yr ydym bellach yn gallu ei chefnogi."

'Tynnu sylw'

Mae'r Lolfa wedi croesawu'r penderfyniad, a dywedodd eu rheolwr gyfarwyddwr ac awdur y ddeiseb, Garmon Gruffudd:

"Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod modd gwerthu e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle bellach. Mae'r ddeiseb wedi dangos i Amazon fod yna alw, ac roedd yn help i dynnu sylw at y broblem.

"Ond byddwn i'n dal i annog pobl i gefnogi siopau llyfrau Cymraeg hefyd.

"Dim ond un platfform yw'r Kindle wrth gwrs, mae llyfrau Cymraeg ar werth mewn sawl man...ac mae'n bwysig eu bod nhw ar gael ar bob platfform posib a'i bod yn hawdd i bobl eu prynu nhw."

'Pob platfform digidol'

Yn 么l Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

''Mae'r Cyngor yn croesawu'r datblygiad yma gan Amazon gan gredu'n gryf ei bod hi'n bwysig bod deunydd darllen yn yr iaith Gymraeg i'w gael mewn print ac ar bob platfform digidol. Mae'n bwysig, felly, bod e-lyfrau Cymraeg ar gael ar y Kindle yn ogystal 芒 theclynnau eraill.

"Wrth brynu trwy wefan Gwales, wrth gwrs, mae gan y darllenwyr y cyfle hefyd i enwi siop lyfrau o'u dewis i dderbyn comisiwn.''

Wrth hefyd groesawu'r datblygiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:

"Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif, mae'n rhaid bod y dechnoleg a'r cyfryngau digidol ar gael yn hawdd yn Gymraeg. Am y rheswm hwn felly y gwnaethon ni gais i Amazon ddileu'r gwaharddiad ar e-lyfrau Cymraeg a thrwy hynny sicrhau eu bod ar gael yn yr un modd 芒 llyfrau mewn Basgeg, Galiseg a Chatalaneg."