Addysg yn dioddef oherwydd absenoldeb

Disgrifiad o'r llun, Mae athrawon yng Nghymru yn absennol am 2.5 diwrnod y flwyddyn yn fwy na rhai Lloegr ar gyfartaledd

Mae addysg disgyblion yng Nghymru yn cael ei heffeithio oherwydd y defnydd cynyddol o athrawon llanw, yn 么l dau adroddiad sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud bod y trefniadau sydd mewn lle ar gyfer dysgu pan mae athrawon yn absennol yn anfoddhaol.

Eu cred yw nad yw'r gwaith sy'n cael ei osod gan athrawon llanw yn addas ar gyfer gwella sgiliau disgyblion nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried yr adroddiadau yn ofalus cyn ymateb.

'Effaith negyddol'

Mae amcangyfrif fod tua 10% o wersi bellach yn cael eu dysgu gan athrawon llanw, sy'n gynnydd o 10% ers 2008/09.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ann Keane yn credu bod angen lleihau effaith absenoldebau

Yn 么l Estyn, mae effeithiau andwyol gorddibyniaeth ar athrawon llanw ar ei waethaf mewn ysgolion uwchradd.

Dywed yr adroddiad, sy'n canolbwyntio ar effaith absenoldeb athrawon ar ddysgwyr: "Mae effaith negyddol fwyaf absenoldeb athrawon ar ddysgu disgyblion yn digwydd mewn ysgolion uwchradd.

"Nid yw staff cyflenwi nad ydynt yn gweithio yn yr ysgol fel arfer yn gwybod beth yw anghenion y dysgwyr gystal 芒'u hathrawon dosbarth arferol, ac mae'r gwaith a osodir yn rhy hawdd yn aml ac nid yw'n diddori'r dysgwyr."

Meddai Ann Keane, prif arolygydd ei mawrhydi dros addysg a hyfforddiant gydag Estyn:

"Mae'n amlwg bod disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd yn gwneud llai o gynnydd pan fydd athro arferol y dosbarth yn absennol. Mae'n hollbwysig i ni fynd i'r afael ag effaith absenoldeb athrawon er mwyn sicrhau bod safon yr addysg a roddir i bobl ifanc bob amser yn heriol.

"O ganlyniad, ni fydd unrhyw ddisgybl o dan anfantais pan fydd ei wersi dan ofal athro cyflenwi."

Effaith ariannol

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), ar y llaw arall, yn ystyried beth yw effaith ariannol yr absenoldebau - maen nhw'n dweud fod ysgolion Cymreig wedi gwario 拢54 miliwn ar drefniadau yn ymwneud ag athrawon cyflenwi.

Yn 么l SAC mae athrawon yng Nghymru'n methu saith niwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd oherwydd salwch, o'i gymharu 芒 ffigwr o bedwar a hanner ar gyfer Lloegr.

Os byddai'r lefel yng Nghymru yn cael ei ostwng i'r un lefel a Lloegr, mae SAC yn amcangyfrif y byddai angen tua 60,000 diwrnod yn llai o ddiwrnodau wedi eu llenwi gan athrawon llanw.

Maen nhw'n dweud y gallai hynny gyfateb i arbedion o 拢9 miliwn y flwyddyn.

Mae gwariant ar gyflenwi dosbarthiadau yn cynrychioli rhyw 4.4% o gyllideb staffio ysgolion.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:"Mae'r adroddiad a gyhoeddir heddiw'n dangos y ddibyniaeth gynyddol ar staff cyflenwi ledled Cymru. Er mwyn defnyddio staff cyflenwi yn effeithlon ac yn effeithiol, mae angen i ysgolion ddeall yn well y rhesymau sydd wrth wraidd absenoldeb athrawon a datblygu trefniadau cyflenwi mwy effeithiol.

"Bydd hyn yn arbed arian i ysgolion ar yr un llaw ond bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad disgyblion."

Ystyried

Llywodraeth Cymru wnaeth gomisiynu Estyn a SAC i ysgrifennu'r adroddiadau. Maen nhw'n dweud y bydden nhw'n eu hystyried yn ofalus cyn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Fe ofynnon ni i Estyn gynnal adolygiad i ddysgu cyflenwi yng Nghymru fel y gallwn ni weld yr effaith strategaeth ysgolion i ddelio gydag absenoldeb athrawon ar gynnydd dysgwyr.

"Mae'r gwaith gafodd ei wneud gan SAC yn cyd-fynd gyda'r adolygiad mewn perthynas ag agweddau gwerth am arian.

"Mae'r ddau adroddiad sydd wedi eu cyhoeddi yn gwneud nifer o argymhellion ar ein cyfer ni, awdurdodau lleol ac ysgolion unigol - byddem nawr yn eu hystyried ac yn ymateb maes o law."

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud mai bai'r Blaid Lafur yw'r hyn sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad.

'Dyfroedd dyfnion'

Dywedodd llefarydd addysg yr wrthblaid, Angela Burns: "Mae'r system addysg eisoes mewn dyfroedd dyfnion ar 么l degawd o arweiniad Llafur, dyw'r adroddiad hwn ddim yn un braf i'w ddarllen.

"Wedi eu gorlwytho gyda biwrocratiaeth, wedi digalonni, o dan straen ac yn gorfod ymdrin gyda physt g么l sy'n symud drwy'r adeg, dyw'n athrawon ni ddim yn cael gwneud yr hyn rydym angen iddyn nhw wneud - dysgu.

"Y staff yma sy'n gwybod beth sydd orau i'n plant a'r staff yma ddylai gael gweithio gyda nhw yn rhydd ac yn barhaol.

"Mae'n rhaid i'r gweinidog Llafur presennol weithredu ar yr adroddiad yma nawr ac ymchwilio i'r achosion go iawn tu 么l i absenoldebau athrawon."