麻豆官网首页入口

Tlodi'n waeth mewn teuluoedd sy'n gweithio

  • Cyhoeddwyd
Dynes a phlentyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn rhybuddio bod cyflogau isel yn arwain at dlodi ymysg pobl sy'n gweithio

Mae tlodi yng Nghymru yn fwy cyffredin mewn cartrefi sydd yn gweithio na' mewn rhai lle does neb yn gweithio, yn 么l un elusen.

Yn ogystal 芒'r cynnydd mewn tlodi i rai sydd mewn gwaith, mae adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud mai Cymru sydd 芒'r cyfran uchaf o gartrefi ar incwm isel ym Mhrydain.

Mae'r elusen - sy'n gwneud ymchwil ym maes polisi cymdeithasol - yn dweud mai "cyflogau isel a diffyg swyddi yn y farchnad" sydd a'r fai am y sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod am weld ei chynllun i fynd i'r afael 芒 thlodi yn creu mwy o "swyddi llawn-amser o ansawdd" i bobl.

23% yn dlawd

Mae teulu'n cael ei ystyried yn dlawd os ydyn nhw'n byw ar lai na 60% o'r incwm teuluol cyfartalog drwy Brydain.

Rhwng 2009/10 a 2011/12 roedd 23% o bobl yng Nghymru (690,000) ar gyfartaledd yn byw mewn tlodi - o'i gymharu 芒 22% yn Lloegr ac 18% yn yr Alban.

O'r rheiny sy'n byw mewn tlodi, mae'r adroddiad yn dweud bod mwy ohonynt yn gweithio na pheidio.

Mae tlodi i'r rheiny sydd mewn gwaith fwyaf cyffredin mewn cymunedau gwledig, tra bod mwy o bobl sy'n byw mewn tlodi ac sydd heb waith mewn ardaloedd trefol.

Roedd gan gynghorau'r gorllewin (17%) a'r gogledd (28%) gyfran uchel o dlodi mewn gwaith, tra bod cyfran uwch o bobl sydd heb waith ac yn byw mewn tlodi yn byw yng Nghymoedd y de (33%) ac yn y cynghorau sydd i'r de o'r M4, megis Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg (22%).

'Diffyg swyddi'

Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud bod y sefyllfa wedi datblygu oherwydd "cyflogau isel a diffyg swyddi yn y farchnad, sydd yn golygu bod pobl yn cael eu dal mewn tlodi."

Dywedodd Daniel Wright o'r elusen: "Nid yw cyflogau wedi bod yn cynyddu yn unol 芒 chostau uwch ac mae mwy o bobl yn byw mewn teuluoedd sy'n gweithio mewn swyddi rhan-amser.

"Mae angen mwy o ffocws ar gyflogau isel - mae angen Cyflog Byw ar Gymru - ac ar oriau isel gan lywodraethau yng Nghymru a San Steffan.

"Mae angen strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael 芒 thlodi, ond gwella'r farchnad swyddi fregus yw'r man cychwyn," ychwanegodd.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ym mis Mehefin 2012, cyn ei ddiweddaru flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae'r cynllun diweddaraf yn cynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl sy'n byw mewn cartref lle nad oes neb yn gweithio.

Mae hefyd yn gosod targedau ar gyfer rhoi cymorth i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd tlotaf, drwy wella addysg plant ac iechyd pobl sy'n byw yno.

'Angen ymyrryd'

Ymrwymiad i wella sgiliau a chymwysterau'r gweithlu yw blaenoriaeth dirprwy weinidog trechu tlodi newydd Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Vaughan Gething yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl bwerau i weithredu yn llawn

Dywedodd Vaughan Gething AC: "Ni allwn eistedd yn 么l a dweud bod yr her yn rhy fawr ac yn rhy anodd. Mae angen i ni ymyrryd yn effeithiol a dyna pam rydym am fynd i'r afael a chartrefi di-waith.

"Ond rydym yn cydnabod hefyd nad oes gan Lywodraeth Cymru'r holl bwerau. Mae llawer o'r hyn rydym am ei weld er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol 芒 thlodi yn dibynnu ar beth mae Llywodraeth y DU yn gwneud.

"Rydym am weld mwy o bobl nid yn unig yn gweithio, ond mewn gwaith llawn-amser o ansawdd uchel.

"Does yna fawr o ddyfodol i Gymru fel gwlad os oes gennym economi llawn cyflogau a sgiliau isel, a dyna pam y mae addysg yn elfen allweddol o'r Cynllun Trechu Tlodi," ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi gwrthwynebu cynlluniau llywodraeth San Steffan i dynnu 拢160 biliwn allan o'r wladwriaeth les er mwyn annog pobl i ddod o hyd i waith.

Fel cenedl sydd yn fwy dibynnol ar fudd-daliadau na Phrydain yn ei chyfanrwydd, cyfrifir y gallai'r newidiadau olygu fod 'na 拢1 biliwn yn cael ei gymryd allan o economi Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i liniaru effaith y toriadau i fudd-daliadau a chredydau treth.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r cyfnod yma o lymder a diwygio'r wladwriaeth les yn cael effaith wirioneddol ar ein gallu i fynd i'r afael 芒 thlodi.

"Ond nid ydych yn gallu eistedd yno a dweud achos bod y newidiadau yn mynd yn y cyfeiriad anghywir yn ein barn ni, ni allwn ni wneud dim byd - byddai hynny'n dangos diffyg uchelgais o safbwynt y llywodraeth."

Targed 'afrealistig'

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod bron i chwarter o bobl yng Nghymru (23%) ar hyn o bryd yn byw mewn tlodi - ffigwr sydd heb newid llawer ers dechrau cyfnod datganoli.

Ar 么l ystyried costau sy'n gysylltiedig efo tai mae tua thraean o blant Cymru'n dod o gartrefi sy'n cael eu diffinio fel rhai tlawd.

Mae ystadegau diweddaraf gafodd eu rhyddhau ym Mehefin yn dangos fod y ffigwr hon wedi codi o 31% i 33%.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ei hun i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020.

Mae'n darged "eithaf afrealistig" yn 么l un academydd wnaeth helpu i gynllunio rhaglen Cymunedau'n Gyntaf y llywodraeth - un o'i phrif bolis茂au ar gyfer mynd i'r afael 芒 thlodi.

Dywedodd yr Athro David Adamson, Prif Weithredwr Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru: "Rwy'n credu bod yr uchelgais o ddileu tlodi, yn sicr erbyn 2020, yn eithaf afrealistig - ni fyddwn yn gallu cyflawni hynny.

"Yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn gallu wneud yw ceisio lleddfu'r effaith o dlodi drwy wneud yn si诺r, er enghraifft, nad yw addysg plant neu iechyd pobl yn dioddef.

"Ond mewn llawer o ffyrdd dydyn nhw methu effeithio ar yr achosion economaidd sylfaenol o dlodi sef cyflogau gwael a'r system fudd-daliadau.

"Rwy'n meddwl bydd y newidiadau yn cael effaith fawr yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau - rwy'n meddwl y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol mewn tlodi a'r gorau y gallwn wneud yw ceisio lleddfu effaith y tlodi hynny ar ansawdd bywydau pobl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol