麻豆官网首页入口

Clogyn Aur: Darganfyddiad newydd

  • Cyhoeddwyd
Mantell Aur yr WyddgrugFfynhonnell y llun, British Museum
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall y darganfyddiadau diweddaraf fod yn hyn na'r Fantell Aur gafodd ei ddarganfod ar y safle

Mae cloddi archeolegol wedi dod o hyd i ddarganfyddiadau newydd yn yr un man a chafodd Clogyn Aur yr Wyddgrug ei ddarganfod 180 o flynyddoedd yn 么l.

1953 i'r tro diwethaf i arbenigwyr gloddio yn y safle a daethant i'r casgliad bryd hynny nad oedd dim mwy yno i'w ddarganfod.

Ond mae t卯m cymunedol wedi dod o hyd i grochenwaith a darnau bach o esgyrn.

Mae'n bosib eu bod nhw'n hyn na'r clogyn a gafodd ei wneud 3,700 o flynyddoedd yn 么l allan o un ddalen o aur.

Gallai hynny olygu fod y safle yn un mwy arwyddocaol nag oedd pobl yn credu, yn 么l yr archeolwgwr Mark Lodwick.

Ef yw un o arweinwyr t卯m sy'n edrych ar 么l darganfyddiadau sy'n cael eu gwneud gan y gymuned archeolegol.

Mae'n gweithio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd fel arfer ond mae wedi bod yn gweithio yn y Wyddgrug gyda phobl leol er mwyn rhannu ei wybodaeth am y clogyn, a'r man lle'i darganfuwyd.

"Mae'r gymuned wedi bod yn darganfod dros eu hunain be sydd wedi digwydd yma," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Lodwick yn credu bod y darganfyddiadau yn arwyddocaol

"Mae gennym ni dechnegau gwyddonol newydd erbyn heddiw, mae defnyddio rhai o'r rheiny wedi rhoi syniad gwell i ni o le ddaeth y gwrthrychau.

"Byddai unrhyw dystiolaeth archeolegol yn helpu i ddweud stori ofnadwy o bwysig wrthym ni am y Wyddgrug, gogledd Cymru a'r Oes Efydd."

Cafodd y gwrthrychau newydd eu darganfod o dan y man lle cafodd y clogyn ei gladdu, felly mae rhai yn amau eu bod yn hyn na'r fantell aur.

Bydd y safle yn cael ei gau i'r cyhoedd wedi'r penwythnos, ond dywedodd Mr Lodwick y gall arbenigwyr ddychwelyd i'r safle yn y dyfodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol