Gwaith i ddechrau ar Gylchffordd Cymru

Ffynhonnell y llun, Good Relations Wales PR

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i drac rasio Cylchffordd Cymru gael ei gwblhau erbyn 2015-16

Yn dilyn cais cynllunio llwyddiannus mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n bwrw mlaen i adeiladu cwrs rasio Cylchffordd Cymru cyn diwedd y flwyddyn.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cytundeb gyda Chyngor Blaenau Gwent am un cymal penodol o'r cais cynllunio sy'n ymwneud ag agweddau o fudd i'r gymuned - cymal 106.

O ganlyniad i'r cytundeb yma bydd y cwrs nawr yn darparu:-

  • Rhaglen hyfforddiant fydd yn darparu 1,650 o leoedd hyfforddi mewn adeiladu a diwydiannau cysylltiedig;
  • Cynllun ynni adnewyddol fydd yn darparu ynni gyda phris sefydlog i nifer o drigolion a busnesau o fewn Blaenau Gwent;
  • Cronfa Fudd Gymunedol o hyd at 拢750,000 dros ddeng mlynedd;
  • Rhaglen liniaru i wella cynefinoedd a phori fydd yn darparu gwell bioamrywiaeth - rhywbeth y mae'r datblygwyr yn gweithio tuag ato gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

'Carreg filltir'

Daeth croeso mawr i'r cytundeb gan Jonathan Jones, pennaeth hyfforddi a recriwtio i'r cynllun. Dywedodd:

"Mae hon yn garreg filltir enfawr i Gylchffordd Cymru ac yn golygu ein bod gam mawr yn nes at ddarparu'r nifer fawr o swyddi a chyfleoedd y bydd y cynllun yn eu cynnig.

"Rhaid clodfori'r gwaith dilysu gan yr awdurdod lleol a'r sylw i fanylder sydd wedi ei ddangos gan bawb. Rydym yn rhagweld y bydd ein partneriaid adeiladu, Griffiths ac FCC, ar y safle o fewn yr wythnosau nesaf i ddechrau ar y gwaith ar y tir cyn y bydd yr adeiladu go iawn yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phawb sydd ynghlwm 芒'r datblygiad gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru."

Safon ryngwladol

Yr amcangyfrif yw y bydd rhyw 750,000 o bobl yn ymweld 芒'r adnodd newydd bob blwyddyn ac y bydd yn creu 拢50 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae disgwyl y bydd 3,000 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth adeiladu'r cwrs, gyda 6,000 o swyddi newydd pan fydd wedi ei gwblhau.

Rhan gyntaf y datblygiad fydd adeiladu cwrs rasio ceir o safon ryngwladol fydd yn cynnwys gwesty ac adeiladau manwerthu, ac fe fydd yr adnodd wedi ei gwblhau yn 2015-16.

Y cynllun yw i gynnal rasys ar gyfer ceir a beiciau modur ar y trac 3.5 milltir o hyd ar y safle ger pentref Rasa - trac fydd yn defnyddio tirwedd unigryw Glyn Ebwy.

Hefyd bydd academi rasio ac adnodd hyfforddi i ddatblygu talent newydd yng Nghymru a'r DU yn gweithio law yn llaw gyda'r trac rasio yn y dyfodol.

Bydd y trac newydd yn cydymffurfio 芒 safonau'r FIA (Federation Internationale de l'Automobile) a'r FIM (Federation Internationale de Motocyclisme) ac fe fydd trac ar wah芒n yn cael ei adeiladu ar gyfer cerbydau 4X4, cartio a motocross er mwyn ceisio denu'r lefel uchaf o gystadlaethau i Gymru.