麻豆官网首页入口

Galw am adolygiad o gynllun iaith

  • Cyhoeddwyd
Meri HuwsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Meri Huws nad oedd NS&I wedi ymgynghori gyda hi na'r cyhoedd cyn penderfynu rhoi'r gorau i'w cynllun iaith Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn am adolygiad barnwrol i achos asiantaeth lywodraethol sydd wedi rhoi'r gorau i'w cynllun iaith Gymraeg.

Dyma fydd y tro cyntaf i Meri Huws ddefnyddio pwerau o'r fath ddaeth i rym fel rhan o adran 8 Mesur yr Iaith Gymraeg 2011.

Ym mis Ebrill cyhoeddodd Cynilion Cenedlaethol a Buddsoddiadau (NS&I) na fyddan nhw'n parhau gyda'u cynllun Iaith Gymraeg, gan honni nad oedd llawer o gwsmeriaid yn cyfathrebu yn y Gymraeg a'i bod yn gostus parhau gyda'r cynllun.

Yn 么l NS&I, dim ond 107 o gwsmeriaid oedd wedi cyfathrebu efo'r cwmni yn y Gymraeg - sef 0.007% o'r 1,549,577 o bobl sy'n gwsmeriaid yng Nghymru.

拢900

Amcangyfrif y cwmni oedd ei bod hi'n costio tua 拢900 y pen bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn i NS&I ailystyried ond cafodd ei chais ei wrthod.

Doedd dim ymgynghori rhwng NS&I a'r Comisiynydd na'r cyhoedd cyn cyhoeddi'r penderfyniad i beidio 芒 pharhau gyda'r cynllun.

Dywedodd Si芒n Howys llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n falch bod y comisiynydd yn defnyddio ei phwerau statudol yn yr achos yma.

'Gwerth'

"Mae'r cam hwn yn dangos gwerth a phwysigrwydd y comisiynydd sydd wir ei hangen i leisio barn dros y Gymraeg a'i defnyddwyr."

Bydd barnwr Uchel Lys yn penderfynu os bydd rhaid i NS&I ailddechrau'r polisi.

Bydd yr achos yn cael ei glywed rhwng Tachwedd 11 a diwedd Ionawr 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol