麻豆官网首页入口

Disgwyl penderfyniad am wasanaethau addysg

  • Cyhoeddwyd
Classroom (generic)
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Carwyn Jones fod ganddo feddwl agored yngl欧n 芒 nifer yr awdurdodau addysg

Mae'r 22 awdurdod addysg yng Nghymru yn disgwyl penderfyniad ar adroddiad sy'n galw am ddiddymu hyd at draean ohonyn nhw.

Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar argymhelliad Robert Hill, oedd yn arfer bod yn ymgynghorydd i'r cyn brif weinidog Tony Blair.

Dywed Mr Hill y gallai "awdurdodau lleol newydd llai" redeg y gwasanaeth.

Ym mis Gorffennaf dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn gefnogol i'r syniad o gwtogiad.

Dywedodd: "Mae'n anodd rhoi ffigwr penodol ond mwy na thebyg ein bod yn son am rif yn yr arddegau yn nhermau ffigyrau."

Mesurau arbennig

Mae'r corff arolygu addysg yng Nghymru, Estyn, yn dweud bod rhifau staff addysg cynghorau yn rhy fach i fedru cynnig cymorth arbenigol.

Mae bron chwarter y gwasanaethau addysg yng Nghymru naill ai o dan fesurau arbennig neu wedi bod ar ryw adeg gan archwilwyr.

Yn 么l adroddiad Mr Hill "mae'r ffaith bod cynifer o awdurdodau lleol yn fach yn ffactor bwysig sy'n cyfrannu at hynny".

Dywed yr adolygiad: "Er hyn mae yna anfodlonrwydd ymysg awdurdodau lleol i ystyried penodi cyfarwyddwyr addysg ar y cyd neu uno gwasanaethau.

"Mae'r Gymdeithas llywodraeth Leol ei hun wedi cydnabod bod y system yn tanberfformio a bod hynny'n annerbyniol ac anghynaladwy."

Ond mae'r arolwg yn rhybuddio bod perfformiad pedwar consortiwm addysg sydd eisoes yn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol yn "rhy amrywiol".

Fe ddywed adroddiad Mr Hill bod trefniadau arweiniad y sefydliadau "ddim yn gweithio'n iawn, yn rhannol oherwydd bod "y bobl anghywir wedi eu recriwtio i'r swyddi, ac mae yna ddryswch yngl欧n 芒 gofynion y swydd".

'Eglurdeb'

Mae'r arolwg yn ychwanegu y byddai'n "ymyriad" i ad-drefnu llywodraeth leol mewn ymgais i wella safonau ysgolion.

"Yn y tymor canolig mae angen ad-drefnu llwyr o swyddogaethau a ffiniau addysgol awdurdodau lleol fel rhan o adolygiad mwy cyffredinol o lywodraethu a threfniadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn gwireddu'r strategaeth yma.

"Rhaid i'r ffocws fod ar ddod ag eglurdeb i'r system bresennol, cyfuno'r nifer o wasanaethau addysg a sicrhau bod yr holl gonsortia yn gweithredu mor effeithiol 芒 phosib cyn gynted 芒 phosib. Mae angen datrys y mater ar frys."

Yn ystod y cyfnod ymgynghori o dri mis ers cyhoeddi'r adroddiad, mae undebau athrawon yr NAHT a'r NUT yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda gweinidogion Cymru i ganfod pa fesurau yn yr adroddiad y byddan nhw'n gallu eu cefnogi.