麻豆官网首页入口

Pryder am safon hyfforddiant athrawon

  • Cyhoeddwyd
Elliw Mair
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elliw Mair yn cytuno bod angen rhoi bwyslais ar hyfforddi athrawon i ddysgu

Nid yw safon y dysgu yng Nghanolfan De-ddwyrain Cymru ddigon da, yn 么l adroddiad Estyn.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi yno ar flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Er y feirniadaeth mae Estyn yn dweud bod elfennau o ddysgu o fewn y ganolfan yn dda.

Mewn ymateb, dywedodd y ganolfan eu bod wedi siomi gyda'r adroddiad ond eu bod yn falch ei fod yn nodi bod mwy o gryfderau na gwendidau.

Hyfforddi

Cyfrifoldeb Canolfan De-ddwyrain Cymru yw hyfforddi darpar athrawon.

Yn 么l Estyn dyw'r hyfforddiant yma ddim yn rhoi digon o arweiniad iddynt ar sut i ddysgu plant yn y ddau faes mae'r llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth iddynt, sef llythrennedd a rhifedd.

O ganlyniad i hynny dyw myfyrwyr ddim yn gallu paratoi yn ddigon trylwyr, a'r awgrym yw mai addysg plant sy'n dioddef yn y pen draw.

Un wnaeth raddio o'r ganolfan yn ddiweddar yw Elliw Mair, ac mae hi'n cytuno nad oes digon yn cael ei wneud i sicrhau bod athrawon yn gadael y ganolfan gyda'r hyder i ddysgu plant yn effeithiol yn y ddau faes.

Dywedodd: "Ro'n i'n meddwl falle, weithiau eu bod nhw'n poeni mwy am ein sgiliau rhifedd a llythrennedd ni na be roeddem ni'n ddysgu i blant...

"Ro'n ni'n gorfod cal profion a fi'n gwybod bod hynny'n bwysig ond weithiau ro'n i'n teimlo y dylen nhw ddweud wrthon ni sut i ddysgu llythrennedd a rhifedd i blant yn lle poeni am safon ein rhai ni."

Diffyg cydweithio

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod diffyg cydweithio rhwng y ddwy brifysgol sy'n gyfrifol am y ganolfan, sef Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd a Prifysgol De Cymru.

Oherwydd hynny, nid yw Estyn yn ffyddiog y bydden nhw'n gallu mynd ati i wella'r ffordd mae athrawon yn cael ei dysgu.

Mae beirniadaeth ychwanegol o'r ganolfan yn cynnwys bod y mwyafrif o ddarpar athrawon ddim yn cynllunio ddigon da i wella sgiliau allweddol disgyblion mewn llawer o achosion, a bod ychydig o'r mentoriaid yn "or-hael" yn y graddau maen nhw'n ei roi i berfformiad darpar athrawon.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan: "Rydym yn croesawu'r broses arolygu gadarn fel bod o fudd ar gyfer adlewyrchu a gwella, er ein bod yn amlwg yn siomedig gan ychydig o'r feirniadaeth benodol sydd yn yr adroddiad.

"Mae Estyn yn cydnabod bod y ganolfan yn cyd-fynd gyda gofynion Hefcw a bod 'mwy o gryfderau na gwendidau' gyda'r perfformiad.

"Mewn ymateb i argymhellion Estyn mae'r ganolfan wedi ymrwymo i sicrhau bod darparu profiad safon uchel i'r myfyrwyr yn flaenoriaeth ar gyfer datblygu ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithredu'r cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael 芒'r heriau mae Estyn wedi eu gosod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol