麻豆官网首页入口

Pryder am doriadau gwariant cyn cyhoeddi cyllideb ddrafft

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd y gallai'r gyllideb ddrafft hon fod yr anoddaf ers datganoli

Mae disgwyl toriadau mewn gwariant cyhoeddus wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ddydd Mawrth.

Mae cynghorau lleol eisoes wedi cael rhybudd i ddisgwyl mwy o doriadau nag yn y blynyddoedd diwetha'.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod disgwyl "y gyllideb anoddaf ers datganoli".

Ond mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall y gallai cytundeb gyda'r gwrthbleidiau gael ei gyhoeddi mor fuan 芒 bore dydd Mawrth.

Heb fwyafrif yn y cynulliad, bydd Llafur angen i'r gwrthbleidiau gymeradwyo'u cynlluniau gwariant, sydd werth tua 拢15 biliwn.

'Tua 4%'

Meddai John Rae, cyfarwyddwr adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Rydym yn amcangyfri' ein bod yn wynebu toriadau o thua 4% wedi i'r gweinidog llywodraeth leol ein rhybuddio ein bod yn wynebu toriadau tebyg i'r rhai yn Lloegr."

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd fod 'na "lefel o amddiffyn" wedi bod o ran llywodraeth leol yng Nghymru, a bod astudiaeth wedi dangos fod cynghorau Cymru hyd yma ond wedi gweld "hanner y toriadau sydd wedi wynebu cynghorau yn Lloegr".

Ychwanegodd fod gan gynghorau wahanol flaenoriaethau, ond fod gwasanaethau fel hamdden, diwylliant, cynllunio, llyfrgelloedd, priffyrdd, goleuadau stryd a datblygiad economaidd yn wynebu toriadau.

Iechyd

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llafur yn y gorffennol am beidio ag amddiffyn cyllid iechyd yn erbyn chwyddiant.

Mae gwariant ar y gwasanaeth iechyd wedi aros yn ei unfan yn y blynyddoedd diwetha', gan olygu ei fod wedi'i dorri mewn termau real wrth ystyried chwyddiant.

Cafodd adolygiad o'r gyllideb iechyd ei gynnal dros yr haf.

Wrth siarad cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, roedd llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Paul Davies AC, yn feirniadol o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan ddweud fod "cleifion yn rheolaidd yn disgwyl dros bedair awr mewn adrannau damweiniau brys".

Ychwanegodd: "Er lles y gwasanaeth iechyd, mae'n rhaid i Carwyn Jones ddefnyddio'r gyllideb ddrafft hon i wyrdroi rhai o'r toriadau iechyd newidiol."

Yn y ddwy flynedd ddiwetha', mae Llafur wedi dod i gytundeb ar wah芒n gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Eleni mae'r ddwy blaid wedi dod at ei gilydd i geisio cael cytundeb gyda'r llywodraeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol