Protest yn erbyn toriadau addysg feithrin yn Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y cyngor nad oedd penderfyniad eto

Mae tua 100 o rieni yn protestio tu allan i bencadlys Cyngor Rhondda Cynon Taf yn erbyn cynnig i wneud toriadau i addysg feithrin.

Eisoes mae rhai ymgyrchwyr wedi bygwth peidio 芒 thalu eu treth cyngor am fis.

Dywedodd y cyngor nad oedd penderfyniad terfynol eto.

Mae'r cyngor, sy'n gorfod arbed 拢46m o fewn pedair blynedd, ar fin cychwyn ymgynghoriad allai olygu bod babanod ddim yn mynd i'r ysgol trwy'r dydd.

Yn lle hynny byddai'r plant yn mynd am ychydig o oriau.

10,000

Erbyn hyn, mae tua 10,000 wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r toriadau.

Mae'r cyngor fel cynghorau eraill Cymru yn gorfod gwneud arbedion ar 么l i'w cyllideb grebachu dros 3% ar gyfer 2014-15.

Ac mae Cyngor Pen-y-bont wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried tynnu arian o'r gyllideb ysgolion fel eu bod nhw yn medru parhau i gynnig llefydd llawn amser i fabanod mewn meithrinfeydd.

Mae'r cyngor yn bwriadu cau hanner eu llyfrgelloedd er mwyn arbed 拢800,000 y flwyddyn.

Y rhai o dan fygythiad yw llyfrgelloedd Treherbert, Ton Pentre, Penygraig, Ynyshir, Maerdy, Cwmbach, Penrhiwceier, Ynysybwl, Cilfynydd, Tonyrefail, Y Beddau a Phontyclun.