麻豆官网首页入口

HSBC: Cau canghennau yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
HSBC logoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r banc yn dweud bod arferion pobl wedi newid efo mwy yn bancio ar y we neu dros y ff么n

Mae gwleidyddion wedi condemnio penderfyniad HSBC i gau canghennau yng ngogledd Cymru.

Y canghennau fydd y rhai yn Llangollen, Conwy a Biwmares a hynny flwyddyn nesaf.

Yn 么l y banc mae'r penderfyniad wedi ei wneud am fod y niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau wedi lleihau yn sylweddol.

Mae HSBC yn dweud eu bod nhw ond yn ymateb i newidiadau yn arferion eu cwsmeriaid.

Ail ystyried

Dywedodd maer Llangollen, Bob Lube bod y newyddion yn ergyd i bobl a busnesau lleol.

"Dw i wedi fy synnu gyda'r hyn mae'r banc yn honni am werth economaidd y gangen yn Llangollen am fod yna nifer uchel o dwristiaid yn ymweld 芒'r dref, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf."

Mae'r Aelod Seneddol Guto Bebb yn dweud y dylai'r banc ail ystyried cau'r ganghen yng Nghonwy: "Nes i weld fy hun y ciwiau ar gyfer defnyddio'r peiriant twll yn y wal HSBC yn ystod g诺yl Conwy yn ddiweddar.

"Mae cael gwared 芒'r gwasanaethau yma mewn ardal dwristaidd yn gamgymeriad ac mi fyddai yn gofyn i HSBC i ailystyried."

Mae'r Aelod Seneddol Llafur Susan Elan Jones hefyd wedi dweud y bydd yn ysgrifennu at y banc er mwyn cael esboniad llawn gan ddweud bod yr honiad ei bod yn 'fanc lleol' yn un sydd ddim yn wir.

"Yn fy etholaeth i yn unig mae canghennau Corwen, Cefn Mawr a Rhosllannerchrugog wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf a nawr mi fydd Llangollen yn cau hefyd."

Newid arferion

Ond mae HSBC yn dweud bod hi yn bwysig sicrhau bod canghennau yn cael eu lleoli yn yr ardaloedd cywir a bod llai yn defnyddio'r canghennau yn Llangollen, Conwy a Biwmares rwan.

"Mae arferiad cwsmeriaid yn newid. Mae nhw'n gynyddol yn defnyddio canghennau lle maen nhw'n gweithio neu yn bancio ar y we neu dros y ff么n.

"Mae'n rhaid i'n rhwydwaith ni fod yn 'addas i'w bwrpas' ac mae'n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni yn rhoi ein canghennau mewn lleoedd lle maen nhw'n cael eu defnyddio."

Fydd swyddi ddim yn cael eu colli yn y tair ardal gyda'r gweithwyr yn cael eu symud i fanciau HSBC cyfagos.

Bydd y canghennau yn cau ar 7 Chwefror 2014.