Addysg: 'Anghysondeb mewn cymorth i blant difreintiedig'

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Mae'r pwyllgor yn ymchwilio i bolisiau'r llywodraeth sy'n ceisio lleihau'r bwlch rhwng digyblion

Mae anghysondeb yn y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion ysgol o gefndiroedd difreintiedig yn destun pryder, yn 么l tystiolaeth sydd wedi'i roi i bwyllgor o aelodau'r Cynulliad.

Bwriad ymchwiliad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad yw adolygu effeithiolrwydd polis茂au Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael 芒'r bwlch sy'n bodoli rhwng cyrhaeddiad addysgol plant o gefndiroedd difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion.

Wrth ymateb i'r ymchwiliad, mae'r arolygwr addysg Estyn yn honni nad yw nifer o ysgolion yn cadw grantiau ar gyfer disgyblion o gefndiroedd tlawd ar wah芒n i weddill eu cyllid.

Gall hyn olygu taw nid disgyblion o gefndiroedd difreintiedig sydd bob tro yn elwa o'r arian sydd i fod ar eu cyfer.

Mae undebau athrawon wedi dweud bod rhai o bolis茂au'r llywodraeth yn gwaethygu'r sefyllfa.

Tanberfformio

Cymru sydd 芒'r lefel ucha' o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig y tu allan o Lundain.

Ar gyfartaledd mae plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn dechrau tanberfformio yn yr ysgol feithrin, yn 么l gwaith ymchwil diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree

Erbyn iddyn nhw gyrraedd eu harholiadau TGAU mae 'na fwlch o 34% rhwng cyrhaeddiad plant sy'n byw mewn cartrefi incwm isel a'u cyd-ddisgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.

Yn y dystiolaeth sydd wedi'i gynnig i'r pwyllgor, mae undebau athrawon yn honni bod rhai o bolis茂au Llywodraeth Cymru yn gwaethygu'r sefyllfa.

Yn 么l NUT Cymru, mae bandio ysgolion, polisi sy'n graddio ysgolion Cymru o 1-5, wedi creu cystadleuaeth rhwng ysgolion sy'n amharu ar gydweithio a rhannu esiamplau o ymarfer gorau.

Yn ogystal, mae polis茂au fel rhoi dirwyon i rieni plant sy'n taerant, a phrofion llythrennedd a rhifedd wedi "suro'r berthynas rhwng rhieni ac ysgolion", meddai'r undeb.

Beirniadaeth

Maen nhw hefyd yn beio dosbarthiadau gorlawn, sydd ar y lefelau uchaf ers datganoli, yn 么l ystadegau'r llywodraeth.

Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor mae NUT Cymru'n dadlau "ei bod hi'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn methu eu targed o ddiddymu tlodi plant erbyn 2020".

Er hynny, mae 'na glod i bolis茂au eraill fel cynllun brecwast ysgol am ddim y llywodraeth, sy'n helpu disgyblion o gefndiroedd difreintiedig ganolbwyntio a chyfrannu yn y dosbarth, yn 么l nifer o'r cyrff sy'n rhoi tystiolaeth.

Ond mae elusen Achub y Plant yn pryderu yngl欧n 芒 "lefelau isel parhaus" o deuluoedd yn dewis derbyn prydau ysgol am ddim.

Mae'r elusen yn honni mai teimlad o stigma sy'n atal teuluoedd rhag cymryd mantais o'r polisi.