麻豆官网首页入口

Land and Lakes: Cynghorydd yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Ynys Mon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r datblygiad arfaethedig wedi rhannu barn ar yr ynys

Mae cynghorydd Llafur yn Ynys M么n wedi ymddiswyddo o'r blaid oherwydd ei fod yn anhapus gyda'u penderfyniad i gefnogi'r cynllun Land and Lakes.

Roedd Raymond Jones - sy'n cynrychioli ardal Caergybi - wedi bod yn aelod o'r blaid ers 55 blynedd ac yn gynghorydd ers saith a dywedodd ei bod ei benderfyniad wedi ei selio ar y ffaith ei fod yn anghytuno gyda chefnogaeth Llafur i'r pentref gwyliau.

"Rydw i'n erbyn Land and Lakes ac rwy'n anhapus gyda gweddill y gr诺p Llafur am ei gefnogi," meddai. "Mae dwy ochr i bob stori ac mae rhai sydd yn gwrthwynebu'r datblygiad.

"Pam felly mae Llafur yn lleol wedi penderfynu ei gefnogi?"

Gan gyfeirio at ei benderfyniad i barhau yn ei swydd fel aelod annibynnol, dywedodd Mr Jones: "Doedd o ddim yn benderfyniad anodd i'w wneud oherwydd dydyn nhw heb roi unrhyw ddewis i mi yn y b么n.

"Mae Llafur yma'n cefnogi'r datblygiad ac yn rhoi amser caled i bobl sydd ddim."

Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd gr诺p Llafur Ynys M么n John Chorlton: "Does neb yn rhoi pwysau ar unrhyw un.

"Mae rhai aelodau Llafur yn erbyn hyn ac mae rhai o'i blaid. Mae o wedi gwneud y penderfyniad i adael y blaid ond doedd dim rhaid iddo wneud, gallai o wedi aros i wneud ei achos."

Ychwanegodd Mr Chorlton: "Os nad ydi o'n deall pam rydym yn cefnogi hwn yna dydi o ddim yn ffit i fod yn gynghorydd nac yn aelod o Lafur.

"Bydd y datblygiad yn creu swyddi yma, yn cadw pobl yma ac felly'n cryfhau'r iaith Gymraeg."

Fe wnaeth y cyngor sir bledleisio o blaid rhoi caniatad i'r datblygiad fynd yn ei flaen yr wythnos ddiwethaf, wedi iddo gael ei wrthod yn wreiddiol.

Mae ei gefnogwyr yn cyfeirio at y ffaith y bydd y cynllun yn creu 600 o swyddi.

Ond mae'r rhai sy'n ei erbyn - sy'n cynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud y byddai'r datblygiad yn "tanseilio'r iaith" yn yr ardal.

Mae penderfyniad Raymond Jones yn golygu mai dim ond dau gynghorydd Llafur sydd ar 么l o fewn y cyngor, gyda nifer yr aelodau annibynnol yn cynyddu i 15.