麻豆官网首页入口

Gair o gyngor

  • Cyhoeddwyd

Ymhen ychydig ddyddiau fe fydd un o bleidiau gwleidyddol Cymru yn cynnal ei chynhadledd. Fe fydd y trafod yn ddwys ond fe fyddai hi'n syndod pe bai'r digwyddiad yn cael unrhyw sylw yn y wasg - ac eithrio mewn un papur. Y "Morning Star" yw'r papur hwnnw a gallach ddyfalu o hynny taw Plaid Gomiwnyddol Cymru sy'n cwrdd.

I aralleirio'r hen gan "er bod hi'n fach mae hi'n wydn" yw'r disgrifiad gorau o'r blaid neu efallai y byddai'r un gair "ystyfnig" yn gwneud y tro. Er nad yw hi wedi blasu llwyddiant etholiadol ers degawdau rhywsut mae'r blaid yn cadw i fynd gan fynnu bod ei neges Farcsaidd yn berthnasol i Gymru'r unfed ganrif ar hugain.

Fel mae'n digwydd dyw r么l y Blaid Gomiwnyddol ddim yn ddibwys yn hanes Cymru. Roedd ei dylanwad yn drwm ar yr undebau - yn enwedig Ffederasiwn Glowyr y de, fe ddaeth hi o fewn y dim i ennill un o seddi'r Rhondda yn etholiad cyffredinol 1945 ac am ddegawdau roedd hi'n cynrychioli'r peth agosaf oedd yn bodoli i wrthblaid i Lafur yng nghymoedd y de. Yn absenoldeb y pleidiau prif-lif roedd y Comiwnyddion ynghyd 芒 grwpiau bychan lleol megis "Protectionists" Aberd芒r oedd yr unig rwystr ar rym Llafur yn y siambrau cyngor.

Wrth reswm nid bai'r Blaid Lafur oedd hi nad oedd y pleidiau eraill yn ei herio ond mae diffyg etholiadau cystadleuol i'n cynghorau wedi bod yn broblem yng Nghymru ers degawdau.

Mae'r sefyllfa wedi gwella. Ychydig iawn o etholiadau diwrthwynebiad sy 'na erbyn hyn. Eto i gyd mae'r sefyllfa sy'n norm yn Lloegr sef bod y prif bleidiau yn enwebu ymgeiswyr ym mhob un ward yn anarferol yng Nghymru y tu hwnt i ddinasoedd y de.

Yn gynharach eleni sefydlodd Llywodraeth Cymru gomisiwn o dan gadeiryddiaeth Syr Paul Williams i adolygu'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu. Mae'r maes llafur yn cynnwys llywodraeth leol ac yn 么l sibrydion yn y Bae mae 'na "linellau ar fapiau".

Prin yw'r rheiny nad ydynt yn disgwyl i gynghorau Cymru gael eu had-drefnu ar 么l etholiad 2016 gyda chwtogiad sylweddol yn nifer y cynghorau a'r cynghorwyr.

Efallai y byddai hynny o'r diwedd yn ysgogi'r pleidiau i enwebu ymgeiswyr lleol ym mhob rhan o Gymru. Dyw sefyllfa lle mae gan bob plaid ei "no go areas" ddim o les i'r etholwyr na'r pleidiau ei hun.