麻豆官网首页入口

Disgyblion Cymru: 'Dim syniad' am brofion mathemateg

  • Cyhoeddwyd
Disgybl
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adroddiad yn honni nad yw disgyblion yn deall nodweddion syml

Mae adroddiad yn honni nad oes gan nifer o ddisgyblion Cymru syniad sut i wneud prawf mathemateg.

O fis Mai 2014, bydd rhaid iddyn nhw sefyll profion rhifedd mewn ymgais i wella safonau, ond mae canlyniadau'r darpar brofion wedi dateglu problemau mawr yngl欧n 芒 gallu plant Cymru i lwyddo.

Mae'r adroddiad yn dangos nad oedd disgyblion yn deall nodweddion sylfaenol. Roedden nhw'n gadael gwaith heb ei wirio, yn cop茂o gan ei gilydd, yn rhoi atebion hurt, neu'n peidio ag ateb o gwbl.

Rhoddwyd y gorau i brofi cenedlaethol yng Nghymru yn 2004.

Canlyniadau'n 'is na'r disgwyl'

Dywedodd un athrawes yn yr adroddiad: "Nid rhifedd oedd y broblem - does gan blant ddim syniad sut i wneud prawf".

Wrth i'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis ddisgwyl canlyniadau profion Pisa ymhen ychydig ddyddiau, dywedodd bod y canlyniadau'n "is na'r disgwyl i'r cyfyngau oedran perthnasol".

Fe edrychodd yr adroddiad ar ganlyniadau sampl o brofion yn ystod mis Mai eleni, gan fwy na 200 o blant ymhob ysgol rhwng blynyddoedd dau a naw:

  • Roedd y darpar brawf yn dangos tystiolaeth glir o ddiffyg dealltwriaeth o sut i weithio ar brawf. Roedd yn amlwg fod rhai wedi cop茂o'i gilydd. Roedd gan eraill ychydig, neu ddim syniad sut i reoli amser, yn cynnwys gwirio'u hatebion.

  • Gadawodd nifer o ddisgyblion ychydig, neu eu holl atebion heb eu hateb. Roedd yn ymddangos fel bod diffyg awch i 'geisio a gweld'. Yn hytrach, os nad oedd yr ateb i'r broblem yn amlwg yn syth, roedd disgyblion o bob oed yn gyndyn i roi cynnig arni.

  • Doedd rhai o'r disgyblion ddim yn gwybod ystyr geiriau fel 'cyfanswm', 'llai na', 'uchder', 'perimedr', 'ardal' ac 'elw'. Roedd hyn yn waeth i'r plant ieuengeaf, ond yn amlwg i'r disgyblion hyn yn ogystal.

  • Dangosodd rhai ddiffyg synnwyr oedd yn peri pryder, drwy gynnig atebion nad oeddynt yn gwneud unrhyw synnwyr yng nghyd-destun y cwestiwn. Doedd dim, bron, o dystiolaeth o wirio dull.

  • Cafodd nifer o ddisgyblion anhawster wrth ddefnyddio cyfrifiannell. Yn yr holl grwpiau oedran, defnyddiodd rai eu cyfrifiannell yn anghywir, gan ychwanegu 85c at 拢5.99 a chael 拢90.99 yn ateb.

Dywedodd Huw Lewis bod "nifer o ffactorau'n cyfrannu at y canlyniadau".

"I ymateb rydw i'n cyhoeddi pecyn cefnogaeth o 拢800,000 o nawdd ychwanegol i'r Rhaglen Gefnogaeth Genedlaethol i ddatblygu llythrennedd a rhifedd.

"Bydd y pecyn yn cael ei delwra i anghenion ysgolion, ac yn cyfrannu at ddatblygiadau hir-dymor dysgu yn y maes".

Ar gyfartaledd, roedd marciau'r profion yn isel i'r holl grwpiau oedran yn 么l yr adroddiad, ac yn amrywio o 19% i 29%.

'Problem glir'

Acumina oedd y cwmni fu'n gyfrifol am ddylunio'r prawf ar ran Llywodraeth Cymru. Yn yr adroddiad, maen nhw'n dweud y dylid "bod yn betrusgar o ganlyniadau'r darpar brofion, gan fod y samplau'n fychan, ac felly ddim yn adlewyrchiad o'r perfformiad cenedlaethol.

"Er hyn, mae problem glir wrth edrych ar berfformiad.

"Gan y bydd y profion hyn yn newydd i ysgolion ym mis Mai 2014, mae'n debyg y bydd y canlyniadau'n llawer yn is nag a fyddai'n ddelfrydol, wrth i athrawon a disgyblion ddechrau deall y fframwaith newydd a'r disgwyliadau am rifedd rhesymu.

"Er hyn, mae gobaith bod safonau uchel o fewn cyrraedd, am i nifer fechan gyrraedd y n么d yn y darpar brofion eleni".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol