麻豆官网首页入口

Nerth Gwlad Gwybodaeth

  • Cyhoeddwyd

Pymtheg oed oedd y disgyblion wnaeth eistedd profion Pisa yn 2012. Hynny yw, roedden nhw'n fechgyn a merched oedd wedi eu geni tua'r adeg y pleidleisiodd pobol Cymru o drwch blewyn o blaid sefydlu'r Cynulliad. Erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol roedd Rhodri Morgan yn cael ei draed dan y bwrdd fel Prif Weinidog.

Plant datganoli wnaeth eistedd profion Pisa felly. Plant Rhodri. Plant Carwyn.

Ydy datganoli wedi eu methu nhw, felly?

Mewn un ystyr mae'n anodd dweud. Dim ond yn 2006 yr ymunodd Cymru 芒'r gyfundrefn. Does dim modd defnyddio Pisa felly i gymharu cyflwr addysg yng Nghymru heddiw 芒'i chyflwr yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig.

Yr hyn sydd yn bosib yw cymharu cyflwr addysg yng Nghymru ar 么l pymtheg mlynedd o ddatganoli a Gweinidogion Addysg Llafur 芒 chyflwr addysg yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Dyw'r darlun ddim yn un pert - a gallwch ddisgwyl clywed y dyfyniad canlynol llawer iawn yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Yn 么l Andreas Schleicher o'r OECD - y corff sy'n goruchwylio Pisa, mae'r gymhariaeth rhwng Cymru 芒 gwledydd eraill Prydain yn "ddadlennol iawn, iawn. Rydych yn son am dri chwarter blwyddyn ysgol"

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod mesurau eisoes wedi eu cyflwyno a fydd yn sicrhau bod Cymru mewn gwell sefyllfa pan gyhoeddir yr asesiad nesaf ymhen tair blynedd ond ar sail y ffigyrau yma y bydd Llywodraeth Cymru yn gorfod wynebu'r etholwyr yn 2016. Os fuodd 'na bastwn mwy yn nwylo'r gwrthbleidiau erioed, dydw i ddim yn ei gofio fe.

Ond wrth gwrs nid y wleidyddiaeth bleidiol sy'n cyfri yn fan hyn ond y ffaith bod ein plant yn cael eu methu - methiant fydd ag oblygiadau pellgyrhaeddol i'n heconomi a'n cymdeithas am ddegawdau i ddod.

Beth sydd i wneud felly?

Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod 'na gryn dipyn o gonsensws ynghylch beth sydd angen gwneud, a chefnogaeth drawsbleidiol i nifer o'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Gweinidog Addysg diwethaf Leighton Andrews. Yr hyn mae'r gwrthbleidiau yn ei amau yw gallu'r Llywodraeth i wireddu'r newidiadau hynny. Amser a ddengys.

Un peth sy'n sicr. Mae hoff ddisgrifiad Rhodri Morgan o Gymru - "a small, clever country" yn swnio'n wag iawn heddiw.