Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru 'eisiau symleiddio'r system gynllunio'
Gallai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i benderfynu ar geisiadau cynllunio mawr - gan gynnwys rhai ffermydd gwynt - yn hytrach nag awdurdodau lleol yn y dyfodol.
Mae'r newidiadau'n rhan o ymgais i geisio newid y system gynllunio er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn haws i'w defnyddio.
Yn 么l swyddogion, maen nhw eisiau "adfywio'r" system er mwyn hybu twf economaidd.
Ond mae'r gwrthbleidiau yn y cynulliad yn dweud bod angen amddiffyn atebolrwydd lleol.
Wrth gyhoeddi mesur drafft ar Gynllunio ddydd Mercher, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau "newid diwylliant" o fewn awdurdodau cynllunio.
Dywedodd swyddogion eu bod eisiau "diwylliant o allu, yn hytrach na methu gwneud".
Prosiectau mawr
Llywodraeth Cymru fydd 芒'r gair ola' ar ddatblygiadau o "bwys cenedlaethol", yn hytrach nag awdurdodau lleol.
Gallai hyn gynnwys prosiectau ynni fydd yn creu rhwng 25 a 50 megawat, gan gynnwys ffermydd gwynt. Mae'r cyfrifoldeb dros gynlluniau ynni mwy yn parhau dan ofal Llywodraeth y DU.
Mae'r newidiadau, sy'n destun ymgynghoriad, yn caniat谩u pobl i fynd uwchlaw eu cynghorau lleol os ydyn nhw'n methu targedau. Yn hytrach, bydd modd cyflwyno ceisiadau'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
Daeth adolygiad gan Lywodraeth Cymru'r llynedd i'r casgliad fod y "system dan straen".
Mae yna 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru - 22 o gynghorau a thri awdurdod parc cenedlaethol.
Mae bron i hanner yr awdurdodau wedi paratoi cynlluniau datblygu lleol, sy'n neilltuo rhannau o dir ar gyfer adeiladau penodol.
'Darparu twf'
Ond mae 'na bryderon fod rhai o'r cynlluniau'n cymryd gormod o amser i'w cyflwyno.
Byddai'r newidiadau'n galluogi gweinidogion i alw ar awdurdodau cynllunio lleol i gydweithio ar gynlluniau datblygu strategol er mwyn mynd i'r afael 芒 phroblemau, gan gynnwys sicrhau fod digon o dir ar gyfer tai. Byddai hefyd yn bosib uno awdurdodau.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Carl Sargeant AC: "Rydym eisiau symud y broses gynllunio o reoleiddio datblygiad i alluogi datblygiad priodol.
"Mae'n rhaid i'n system gynllunio ddarparu twf yn y sectorau tai, swyddi ac isadeiledd - rhywbeth y mae gan genedlaethau'r dyfodol yr hawl i'w ddisgwyl."
'Atebolrwydd lleol'
Yn 么l Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru: "Ar hyn o bryd mae'r holl ddiwylliant o ran cynllunio yng Nghymru'n ymwneud ag atal, neu rwystro datblygiad."
Ychwanegodd fod symud i gynlluniau datblygu rhanbarthol "yn gwneud synnwyr ar sawl lefel".
"Ond wrth gwrs mae 'na bryder eich bod yn colli atebolrwydd lleol o ran democratiaeth," rhybuddiodd.
Meddai Gareth Williams, cyfarwyddwr ymgynghorwyr cynllunio Nathaniel Lichfield and Partners yng Nghaerdydd, "mae'r system wedi dod i stop yn ystod y blynyddoedd diwethaf".
"'Dyw cynlluniau datblygu lleol ddim yn cael eu paratoi mor gyflym ag y dylen nhw, sy'n golygu nad oes sail bwrpasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
"Felly, mae pethau'n cymryd rhagor o amser ac mae 'na fwy o ansicrwydd yn y broses, ac mae'n llawer anoddach i gyflawni'r t诺f economaidd sy'n gysylltiedig 芒 datblygu."
'Effaith andwyol ar yr iaith'
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder nad oes s么n am y Gymraeg yn y mesur drafft.
Dywedodd eu cadeirydd, Robin Farrar: "Mae'r system gynllunio yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar hyn o bryd, a byddwn ni'n ystyried y cynigion sydd wedi cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, mae'n warthus ar 么l yr holl dystiolaeth mae'r Llywodraeth wedi ei derbyn, nad oes s么n am y Gymraeg yn y mesur drafft.
"Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd 芒'r Gweinidog wythnos nesaf i drafod y mesur. Ond byddwn ni'n glir bod angen newidiadau sylweddol i'r system, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu yn ein cymunedau, yn hytrach na pharhau i grebachu."