麻豆官网首页入口

Gormod o hunan-longyfarch ym myd addysg?

  • Cyhoeddwyd
Huw Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Lewis wedi dweud fod y canlyniadau Pisa "ddim digon da"

Mae gormod o hunan-longyfarch o fewn y system addysg yng Nghymru, yn 么l y Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Dywedodd mewn datganiad yn y Senedd fod y feirniadaeth fuodd yn y wasg oherwydd canlyniadau gwael Pisa yn "hollol deg".

Aeth ymlaen i ddweud: "Ers cyhoeddi'r canlyniadau, rydym wedi bod yn dadansoddi'r data ac mae un maes yn destun pryder difrifol."

"Mae holiaduron y myfyrwyr a'r athrawon yn awgrymu bod athrawon a disgyblion yn credu fod disgyblion yn perfformio'n well nag y mae'r canlyniadau'n ddangos.

"Mae hynny'n gwneud i mi ofyn beth y mae athrawon yn ddweud wrth eu dysgwyr - mae'n ymddangos bod yna ormod o hunan-longyfarch yn y system."

Gormod o sylw ar athrawon?

Yn 么l Mr Lewis mae gan athrawon ddyletswydd i sicrhau fod eu disgyblion yn cael eu herio drwy'r adeg i wella eu perfformiad.

"Mae angen i ddysgwyr gael eu hymestyn, mae angen i athrawon ofyn llawer, mae angen i rieni ofyn sut y mae eu hysgol yn darparu ar gyfer eu plant. Dylem fod yn gosod ein disgwyliadau yn llawer, llawer uwch."

Ond doedd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn cytuno y dylai'r pwyslais i gyd fod ar berfformiad athrawon.

Dywedodd Aled Roberts: "Dw i'n meddwl bod angen i ni fod yn wyliadwrus iawn fod yr holl sylw ddim yn disgyn ar athrawon ac ein bod ni hefyd fel gwleidyddion a swyddogion yn derbyn ein cyfrifoldeb ni wrth edrych ar y sefyllfa."

'Angen rhoi gwerth ar addysg'

Mae'r undeb athrawon UCAC wedi ymateb i sylwadau Mr Lewis gan ddweud ei bod hi'n bwysig parhau gyda'r newidiadau sydd eisoes yn cael eu gweithredu o fewn y system addysg.

Dywedodd Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC: "Rydym yn falch bod y gweinidog wedi ymateb yn bwyllog i ganlyniadau'r profion PISA, a'i fod yn bwriadu dyfalbarhau gyda'r newidiadau sydd eisoes ar y gweill. Cytunwn 芒 Robert Hill nad nawr yw'r amser i fynd i banig, nac i simsanu.

"Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n diwygio'r cwricwlwm, y trefniadau asesu a chymwysterau 14-19; ac rydym ni'n wrthi'n cyflwyno Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cenedlaethol. Yr hyn sydd ei angen nawr yw canolbwyntio ar weithredu'r newidiadau hyn, a sicrhau bod staff ysgolion yn derbyn hyfforddiant priodol i allu gwneud hynny'n drwyadl, yn ddeallus ac yn gyson ledled Cymru.

"Cytunwn yn llwyr 芒'r gweinidog pan ddywed bod angen meithrin diwylliant sy'n rhoi gwerth ar addysg. Rydym ni'n berffaith barod i gydweithio gyda'r gweinidog i helpu llywio a gweithredu ei weledigaeth. Edrychwn ymlaen at glywed beth fydd ei gamau nesaf yn y flwyddyn newydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol