Bandio ysgolion: cyhoeddi'r canlyniadau am y drydedd flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau bandio ysgolion uwchradd Cymru wedi eu cyhoeddi am y trydydd tro.
Ers 2011 mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael eu rhoi mewn gr诺p bandio ar sail perfformiad; band un ydy'r uchaf a band pump ydy'r isaf.
218 o ysgolion gafodd eu bandio eleni. 20 o ysgolion sydd wedi eu gosod ym mand un, sydd wyth yn llai na'r llynedd.
Mae'r yn dangos bod un ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi codi o'r band isaf y llynedd i'r band uchaf eleni sef Ysgol Uwchradd Glynrhedynog.
Asesu perfformiad
Mae bandio yn gweithio drwy asesu perfformiad ysgol o fewn pedair adran i greu un sg么r terfynol:
Canran y disgyblion sy'n ennill pump TGAU o radd A* i C, yn cynnwys Cymraeg, Saesneg neu fathemateg;
Yr wyth canlyniad TGAU gorau i ddisgyblion;
Perfformiad disgyblion lefel TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg;
Presenoldeb.
O fewn pob categori, mae sg么r ysgol yn cael ei addasu i ystyried canran y plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Mae hyn er mwyn cydnabod yr heriau o redeg ysgol mewn ardal ddifreintiedig.
Mae'r rhan fwyaf o'r categoriau hefyd yn ystyried sut y mae perfformiad ysgol wedi newid dros amser, er mwyn gwobrwyo ysgolion sy'n gwella'u perfformiad.
Eleni mae Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Ardudwy ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg wedi codi o fand 4 i 1.
Ysgol Uwchradd Oakdale yng Nghaerffili sydd wedi cwympo fwyaf o fand 1 i fand 4. Mae 5 o ysgolion ar draws Cymru wedi disgyn o'r band uchaf i fand 3 neu 4.
Mae cyfanswm o 81 ysgol wedi symud i lawr un band neu fwy rhwng 2012 a 2013 ac mae 71 ysgol wedi cael eu gosod mewn band uwch.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae 5 o'r 11 o ysgolion ym mand 1.
Ni chafodd 4 ysgol eu bandio.
Beirniadaeth
Cyflwynwyd y system yn 2011 ac mae yna feirniadaeth wedi bod ohoni gan undebau athrawon. Maen nhw'n dadlau nad ydy bandio yn adlewyrchu perfformiad ysgolion mewn gwirionedd, oherwydd y gall ysgol symud i fyny neu i lawr yn sylweddol o fewn blwyddyn neu ddwy.
Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn derbyn y ddadl honno, gan ddweud mai dyna ydy holl bwrpas y system.
Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn dadlau bod y ffaith fod cynifer o ysgolion a oedd ym mandiau 4 a 5 yn 2011 wedi esgyn i fandiau uwch flwyddyn yn ddiweddarach yn dystiolaeth fod y system yn gweithio.
Y flwyddyn nesaf fe fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r system gyda'r posibilrwydd o gynnwys tlodi fel rhan o'r drefn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013