Cyngor RCT yn beio Llywodraeth DU am orfod gwneud toriadau

Disgrifiad o'r llun, Cyngor RCT yn trafod toriadau yn y flwyddyn newydd

Fe all gwasanaethau hamdden, treftadaeth a diwylliant Cyngor Rhondda Cynon Taf wynebu amser caled wrth i'r awdurdod chwilio am doriadau gwerth 拢3.7m.

Yn y Flwyddyn Newydd fe fydd cynghorwyr yn cyfarfod i drafod toriadau sylweddol i'w gwasanaethau.

Dros y pedair blynedd nesaf mae'n rhaid iddynt dorri 拢70m.

Hefyd ar Ionawr 8, fe fydd y cabinet yn ystyried opsiynau i dorri ar gefnogaeth i wasanaethau bws, a newidiadau i wasanaethau gofal oedolion.

Mae dirprwy arweinydd y Cyngor, Paul Cannon, yn rhoi'r bai ar Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y toriadau.

Bai ar Lundain

Meddai Cynghorydd Cannon: "Rydym wedi ei gwneud hi'n glir bod rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er mwyn i ni ddelio gydag effeithiau mesurau llym Llywodraeth y DU.

"Mae effaith y penderfyniadau yma yn digwydd yn lleol er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud eu gorau i warchod Cymru yn sgil penderfyniadau Llywodraeth DU.

"Ond pan mae eu cyllid hwy wedi cael ei gwtogi gan 拢1.7biliwn mae'n anochel bydd ein gwasanaethau lleol, fel sydd wedi digwydd yn barod yn Lloegr, yn cael eu heffeithio yn ddifrifol.

"Yn union fel gwnaeth Llywodraeth Thatcher chwalu diwydiannau oedd wedi eu gwladoli, mae'r llywodraeth yma yn mynd i gael effaith tebyg ar wasanaethau cyhoeddus."

Bwlch ariannol

Ychwanegodd y cynghorydd Cannon: "Pan rydym yn wynebu gwneud penderfyniadau caled er mwyn pontio'r bwlch cyllidol o 拢70m, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y dewisiadau rydym yn ei wneud yn dal i gynnig amrywiaeth a lefel dda o ddarpariaeth i'n trigolion.

"Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae'r Cyngor wedi gwneud arbedion effeithiolrwydd o 拢60m ac i warchod ein gwasanaethau rheng flaen cyn belled ac sy'n ymarferol, mi fyddwn yn gwneud 拢4m yn fwy o arbedion yn y flwyddyn nesaf."