麻豆官网首页入口

Cyngor Rhondda Cynon Taf: Codi oedran addysg

  • Cyhoeddwyd
Cyngor RCT
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor yn gorfod arbed 拢70 miliwn mewn pedair blynedd

Fe fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi'r oedran y mae plant yn dechrau addysg lawn amser o dair i bedair oed.

Byddai cynyddu'r oedran yn arbed 拢4.5 miliwn y flwyddyn.

Mae'n rhan o nifer o newidiadau cabinet y cyngor sy'n anelu at arbed 拢70 miliwn dros bedair blynedd.

Ond bydd newid yr oedran addysg yn dod i rym ym mis Medi yn lle mis Ebrill fel yr oedd wedi ei grybwyll yn wreiddiol.

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor Paul Cannon fod hyn yn dangos bod y cyngor wedi gwrando ar farn y bobl.

Mae 6,500 o drigolion wedi bod yn rhan o ymgynghoriad yngl欧n 芒 chynigion toriadau i nifer o wasanaethau.

Ymhlith yr argymhellion dan sylw roedd cau llyfrgelloedd a chanolfannau dydd i'r henoed.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys cau 12 o 26 o lyfrgelloedd y sir. Yn wreiddiol, y bwriad oedd 14 o lyfrgelloedd.

Canolfannau hamdden

Y llyfrgelloedd sydd wedi cael eu clustnodi i gau yw Treherbert, Ton Pentre, Penygraig, Ynyshir, Maerdy, Cwmbach, Penrhiwceibr, Ynysybwl, Cilfynydd, Tonyrefail, Nantgarw a Beddau.

Byddai newidiadau i wasanaethau ieuenctid yn arbed 拢2.2 miliwn, tra byddai rhoi'r gorau i wasanaeth pryd ar glud ar y penwythnosau yn arbed 拢300,0000.

Yn 么l swyddogion y cyngor, byddai cau 10 allan o 19 o ganolfannau dydd yn arbed 拢600,000 y flwyddyn.

Roedd y cabinet yn trafod rhan un y cynllun arbedion yn y bore ac yna yn cyhoeddi argymhellion ail ran y cynllun arbedion am hanner dydd ddydd Mercher.

Mae cynigion yr ail ran yn cynnwys cau Amgueddfa Cwm Cynon a chanolfan gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd.

Hefyd mae swyddogion yn argymell cau chwe phwll nofio padlo, sydd ar hyn o bryd ar agor am chwe wythnos bob haf.

Goleuadau

Byddai'r awdurdod yn cau Pwll Nofio Bronwydd, Pwll Nofio Y Ddraenen Wen - oni bai bod yr ysgol uwchradd leol yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am y safle- a Chanolfan Hamdden Llanilltud Faerdref.

Cynnig arall yw cwtogi oriau agor canolfannau hamdden Rhondda Fach, Abercynon, Y Ddraenen Wen a Thonyrefail.

Byddai llai o ddefnydd o oleuadau stryd tra byddai'r arian sy'n cael ei roi i gynnal gwasanaethau bysiau yn cael ei haneru o 拢841,00 i 拢441,000 y flwyddyn.

Un o'r argymhellion eraill yw codi taliadau uwch am wasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig i oedolion.

Mae 22 o awdurdodau lleol un ai wedi cyhoeddi neu yn y broses o gytuno ar wneud toriadau i'w gwasanaethau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol