Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Wrecsam: Penderfynu cau dwy lyfrgell?
Mi fydd Cyngor Wrecsam yn penderfynu ddydd Mawrth a ydyn nhw am gau llyfrgelloedd yn y sir.
Bydd bwrdd gweithredol y cyngor yn cwrdd i drafod toriadau posib.
Mae disgwyl y bydd angen gwneud toriadau o 拢92,000 i wasanaethau llyfrgell fel rhan o gynllun i arbed 拢13m dros y flwyddyn nesaf a 拢45m dros y pum mlynedd nesaf.
I wneud hyn mae swyddogion yn argymell cau llyfrgelloedd Brymbo a Gresffordd.
Bydd hyn yn arbed yn agos at 拢37,000.
I gyrraedd y targed o 拢92,000 bydd oriau agor gweddill llyfrgelloedd y sir yn cael eu cwtogi 19%.
Roedd s么n am gau llyfrgell arall yn Rhosllannerchrugog, ond petai'r cyngor yn penderfynu cau tair yn hytrach na dwy, fe fydden nhw'n torri amodau'r Mesur Safonau Llywodraethu Llyfrgelloedd, a gafodd ei ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru yn 2002.
Mae ymgyrch wedi codi yn Rhos i amddiffyn y llyfrgell yno.
Ym mis Tachwedd, penderfynodd bwyllgor craffu nad oeddan nhw am gefnogi cau unrhyw un o lyfrgelloedd y sir mewn egwyddor.
Roedd yn well gan y pwyllgor weld gostyngiad o 26% ar gyfartaledd mewn oriau agor llyfrgelloedd y sir "petai rhaid" er mwyn cyrraedd y targedau ariannol.
Ond y bwrdd gweithredol sydd 芒'r penderfyniad terfynol.