麻豆官网首页入口

Halen M么n: Statws arbennig

  • Cyhoeddwyd
Halen MonFfynhonnell y llun, Halen Mon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y cwmni y bydd y statws yn golygu y byddan nhw'n gallu cyflogi mwy o bobl

Mae Halen M么n wedi derbyn statws gan yr Undeb Ewropeaidd sydd yn gwarchod y cynnyrch.

Bwriad statws o'r fath ydy bod enwau bwyd yn cael eu gwarchod a hynny o achos y lleoliad daearyddol neu rysait traddodiadol.

Yn 1993 y cafodd y ddeddfwriaeth ei chyflwyno.

Yn 么l cwmni teuluol Halen M么n maen nhw rwan yn disgwyl y byddan nhw'n gallu cynyddu'r nifer sydd yn gweithio yno o 25% eleni.

Fe wnaeth tatws newydd Penfro sicrhau y statws ym mis Hydref y llynedd, tra bod eirin Dinbych wedi gwneud cais i gael yr un gydnabyddiaeth.

"Rydyn ni wrth ein boddau bod Halen M么n ymhlith y cyntaf yng Nghymru i gael y statws Enw Tarddiad Gwarchodedig ac ry' ni yn ymuno gyda chynnyrch gwych eraill fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion a Thatws newydd Sir Benfro," meddai Alison Lea-Wilson o'r cwmni.

"Mae cwsmeriaid rwan yn gwybod 100% - pan maen nhw'n prynu Halen M么n eu bod nhw'n cael cynnyrch sydd wedi ei bigo a'i becynu yn Sir F么n."

Mae Halen M么n yn cael ei halen o gulfor Menai ac yn cael ei allforio i 20 o wledydd.

拢900 miliwn o hwb

Pan mae cynnyrch yn cael statws gan yr Undeb Ewropeaidd mi allan nhw gael eu rhoi mewn tri chategori gwahanol sef Enw Tarddiad Gwarchodedig, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig a Gwarant Arbenigedd Traddodiadol.

Mae derbyn y gwobrau yn helpu i godi ymwybyddiaeth gwledydd yn Ewrop o'r bwyd a'r awgrym ydy eu bod nhw'n cyfrannu mwy na 拢900 miliwn i'r economi Ewropeaidd.

Erbyn hyn mae 62 o gynnyrch wedi derbyn y statws.

Dywedodd y Gweinidog Ffermio yn San Steffan, George Eustice:

"Mae gwarchod yn gyfreithiol yr ansawdd, tarddiad ac enw da bwyd Prydain yn mynd i helpu busnesau bach i wneud cyfraniad gwerthfawr yn economaidd ar lefel lleol a chenedlaethol.

"Rydyn ni nawr eisiau helpu mwy o gynnyrch bwyd o Brydain sydd yn ystyried gwneud cais i gael y clod am ansawdd eu cynnyrch."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol