麻豆官网首页入口

Cyfyng-Gyngor

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae rhai o ffiniau llywodraethol Cymru yn fwy gwydn nac eraill. Fe barodd y ffin rhwng Uwch ac Is Conwy am dros fil o flynyddoedd er bod y tywysogaethau a'r siroedd ar ddwy lan yr afon wedi newid eu henwau droeon. Er cystal ymdrechion Telford a Stephenson fe barodd y ffin wleidyddol tan 2003 pan symudwyd y ffin rhwng Clwyd a Gwynedd o Gonwy i Abergwyngregyn.

Cyn i chi ofyn - ydyn, mae Clwyd a'r Gwynedd 1973 o hyd yn bodoli. Felly hefyd Dyfed, Gwent a'r gweddill. Y cynghorau gafodd eu diddymu yn 1996 nid y siroedd daearyddol. Tacluswyd y ffiniau gan y "Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) yn 2003. Rwy'n sicr bod gwybod hynny wedi cyfoethogi eich bywydau.

Ta beth, mae'n ymddangos ein bod ni ar fin ffarwelio a siroedd a bwrdeistrefi byrhoedlog David Hunt ac y bydd Sir Ddinbych, Sir Fflint a'u tebyg yn cael eu cludo i'r fynwent am yr eildro o fewn hanner canrif.

Ddydd Llun fe fydd Comisiwn Williams sy'n adolygu'r gyfundrefn lywodraeth leol ymhlith pethau eraill yn cyhoeddi eu hargymhellion. Mae hi wedi bod yn hysbys ers oes pys y bydd y comisiwn yn argymell cwtogi'r nifer o gynghorau ac ar "Y Sgwrs" neithiwr fe wnaeth Carwyn Jones arwyddo'n eglur ei fod yn bwriadu derbyn yr argymhellion.

Does dim rhaid bod yn athrylith i synhwyro beth fydd yn cael ei hargymell.

Mae 'na dair ffactor sy'n cyfyngu ar ddewisiadau'r comisiwn. Yn gyntaf mae'n annhebyg iawn y bydd 'na ymgais i lunio ffiniau o'r newydd - uno'r unedau presennol yw'r ffordd symlaf a mwyaf rhesymegol o weithredu. Mae'n annhebyg hefyd y bydd unrhyw un o'r cynghorau newydd yn croesi ffiniau'r byrddau iechyd a'r lluoedd heddlu. Yn olaf, er mwyn sicrhau parhad cymorth o Gronfa Gydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd mae'n debyg y bydd y ffin rhwng Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a gweddill y wlad yn cael ei pharchu.

O ystyried hyn oll rwy'n fodlon rhoi fy mhen ar y bloc a mentro taw rhywbeth fel hyn fydd y patrwm newydd; Gwynedd / M么n, Conwy / Sir Dinbych, Sir Fflint / Wrecsam, Powys, Ceredigion / Caerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd - Porth Talbot / Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf / Merthyr, Caerdydd / Bro Morgannwg, Caerffili / Torfaen / Blaenau Gwent a Chasnewydd / Mynwy.

Dyfalu ydw i yn fan hyn - nid rhannu cyfrinach. Mewn ambell achos megis Ceredigion a Chastell Nedd - Port Talbot mae dewisiadau eraill yn bosib. Serch hynny, byswn i'n rhyfeddu os oeddwn i'n bell iawn o fod yn gywir.