Comisiwn Williams: Yr ymateb

Disgrifiad o'r llun, Syr Paul Williams oedd yn arwain y t卯m oedd yn ystyried y pwnc ar ran y llywodraeth

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

"Hoffwn ddiolch i Syr Paul Williams ac aelodau'r Comisiwn am eu gwaith caled yn casglu'r dystiolaeth eang ar gyfer yr adroddiad hwn. Roedd hynny'n cynnwys casglu tystiolaeth oddi wrth y rheiny sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus a'r rheiny sy'n eu defnyddio.

"Mae'r adroddiad hwn yn trafod sawl agwedd hollbwysig, ar adeg pan fo'r galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu, a'r adnoddau sydd ar gael i'w darparu yn prinhau. Rwyf wedi bod yn glir o'r dechrau na allwn barhau i gynnal y drefn fel y mae.

"Mae pobl ar hyd a lled Cymru yn dibynnu'n helaeth ar y gwasanaethau hollbwysig y mae'r sector cyhoeddus yn eu darparu bob dydd. Mae'n anorfod ac yn hanfodol fod pethau yn newid, fel y gall ein gwasanaethau cyhoeddus ddod yn fwy effeithiol, yn fwy effeithlon, yn fwy hygyrch ac yn fwy ymatebol.

"Byddaf yn mynd ati'n awr i ystyried yr adroddiad yn fanwl, cyn ymateb iddo maes o law."

'Glud'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Rhodri Glyn Thomas AC:

"Mae unrhyw ddiwygio ar raddfa fawr angen arweiniad pendant gan y Llywodraeth. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n uniongyrchol i amlinellu pa un o'r dewisiadau hyn yw'r ffordd orau ymlaen, sut y telir y costau, a'r oblygiadau i staff rheng-flaen.

"Nid yw'r status quo a chadw pethau yn union fel y maent yn awr yn ddewis. Cafodd rhai o'r strwythurau sydd gennym yn awr eu cynllunio cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru fodoli.

"Gwasanaethau cyhoeddus yw'r glud sydd yn dal Cymru at ei gilydd. Mae'n hanfodol fod safonau mewn addysg, gofal iechyd a llywodraeth leol yn cael eu gwella'n gyson, a bod unrhyw ddiwygio ar gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn ateb yr her hon.

"Bydd Plaid Cymru yn awr yn ymgynghori yn ein plaid ar y dewisiadau a gyflwynwyd gan y Comisiwn ac ynghylch unrhyw ddewisiadau eraill o ran cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus."

'Angen datganiad clir'

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd eu llefarydd ar Lywodraeth leol Janet Finch-Saunders:

"Yr hyn sy'n bwysig i'r mwyafrif o deuluoedd sy'n gweithio'n galed yw nid strwythur cymhleth llywodraeth leol, ond gwybod y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd sy'n effeithlon a chost effeithiol.

"Rydym yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu orau yn lleol fel y gall trethdalwyr ddal cynrychiolwyr lleol i gyfrif am yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau.

"Rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad sydd nawr yn caniat谩u i Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog i ddatgan eu cynlluniau i ddod 芒'r cyfnod ansicr yma i ben.

"Mae'r dyfalu di-ben-draw am ad-drefnu llywodraeth leol wedi achosi pryder sylweddol i ddegau o filoedd o weithwyr cyngor a'u teuluoedd, sydd yn haeddu datganiad clir o fwriad gweinidogion Llafur."

'Parhaol'

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar lywodraeth leol, Peter Black:

"Er fy mod yn cefnogi cwtogi nifer y cynghorau mae'r adroddiad yn fwy na hynny. Mae angen newid cynhwysfawr ar sut y mae llywodraeth leol yn gweithio yng Nghymru.

"Mae hyn yn ymwneud 芒 chael gwasanaethau cyhoeddus sy'n gost-effeithiol, yn effeithlon ac yn atebol.

"Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod cynghorau - yn enwedig os fyddan nhw nawr yn fwy - yn cael mwy o bwerau a chyfrifoldebau. Ni ddylai datganoli stopio ym Mae Caerdydd.

"Wrth ystyried y trydydd ad-drefnu o wasanaethau lleol mewn 40 mlynedd, rhaid sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n iawn.

"Mae hynny'n golygu ymgynghori'n eang ar yr argymhellion a'u trafod yn drylwyr, ac mae'n hanfodol i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad ar y mater.

"Fe ddywed Comisiwn Williams y dylai'r cyfnod o newid fod rhwng tair a phum mlynedd. Rwy'n cefnogi'r amserlen ond hefyd yn annog gofal.

"Rhaid i'r ad-drefnu yma fod yn barhaol. Ni allwn fforddio dechrau eto ymhen 15-20 mlynedd arall."

Llai neu fwy o bwysau?

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddan nhw'n trafod cynnwys yr adroddiad yn fanwl gyda'u haelodau a bod angen bod yn ofalus ac ystyried yr argymhellion yn ehangach.

Meddai'r datganiad: "Rhaid pwyso a mesur popeth cyn dod i benderfyniadau am dynged ein gwasanaethau ni. Dyma wasanaethau cyhoeddus mae'n cymunedau'n talu amdanyn nhw a dylen nhw gael cyfle i ddweud eu dweud am eu dyfodol.

"Mae toriadau na welon ni eu tebyg erioed yng ngwariant y wladwriaeth, ond mae mwy a mwy o alw am wasanaethau cyhoeddus.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn siwr a fydd ad-drefnu yn helpu i leddfu'r pwysau hynny neu'n ychwanegu atyn nhw.

"Felly, rhaid mynd ymlaen yn ofalus ac ystyried argymhellion Comisiwn Williams yn eu cyd-destun ehangach. Dylai unrhyw newid fynd rhagddo ar 么l dadansoddi costau a manteision yn drylwyr a nodi'n fanwl yr adnoddau sydd i'w neilltuo ar gyfer newid mawr o'r fath."