Marciau llawn i addysg Ceredigion

Disgrifiad o'r llun, Roedd awdurdod addysg Ceredigion ymhlith y pump uchaf yng Nghymru, medd Estyn

Mae ysgolion Ceredigion ymhlith y gorau yng Nghymru yn 么l archwilwyr a ddywedodd bod adran addysg yr awdurdod yn "rhagorol".

Dywedodd Estyn - y corff arolygu ysgolion - bod y safonau yn gosod yr awdurdod o fewn y pump uchaf yng Nghymru.

Ond Ceredigion yw'r olaf o awdurdodau Cymru i dderbyn adroddiad gan Estyn, a'r unig un i gyrraedd y dosbarthiad uchaf.

Roedd clod i raddfa presenoldeb disgyblion a'u cyrhaeddiad ynghyd ag arweiniad cryf gan y cyngor.

Mae chwe awdurdod addysg yng Nghymru o dan fesurau arbennig yn dilyn archwiliad a ddywedodd bod angen gwelliannau ar frys yno.

O'r 15 maen prawf yn archwiliad Estyn, fe gafodd Ceredigion y dosbarthiad uchaf - 'Rhagorol' - mewn 11 ohonyn nhw a 'Da' yn y pedwar arall.

Nodweddion

Mae'r nodweddion rhagorol yn cynnwys:

  • Yn 2013, mae safonau yn ysgolion Ceredigion yn dda ac maent yn y pump uchaf ar gyfer Cymru ym mhob cyfnod allweddol ar gyfer y prif ddangosyddion;
  • Y cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yw'r gorau yng Nghymru;
  • Roedd pob disgybl a adawodd yr ysgol yn y tair blynedd diwethaf yn meddu ar o leiaf un cymhwyster cydnabyddedig;
  • Prosesau cadarn i gefnogi, herio ac ymyrryd yn ei hysgolion;
  • Defnydd rhagorol o ddata ar draws yr awdurdod, a'r cyfraniad a wna at fonitro, herio ac ymyrraeth effeithiol gan yr awdurdod mewn ysgolion;
  • Y ffordd lwyddiannus y mae'r awdurdod yn bodloni anghenion dysgu ychwanegol disgyblion;
  • Y dull cysylltiedig rhwng gwasanaethau wrth gynorthwyo a herio ysgolion i wella ymddygiad a phresenoldeb.

Y chwe awdurdod sy'n methu o safbwynt addysg yw Sir Benfro, Torfaen, Blaenau Gwent, Ynys M么n, Sir Fynwy a Merthyr Tudful.

Cafodd y chwech eu barnu'n 'Anfoddhaol' gan Estyn yn eu harchwiliadau diwethaf.

'Adlewyrchiad cadarnhaol'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Cerdigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn:

"Mae hwn yn ganlyniad rhagorol i Geredigion. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd clir o ansawdd y ddarpariaeth a gyflwynir yma yng Ngheredigion gan d卯m ymroddedig o weithwyr proffesiynol dan arweiniad Eifion Evans (y Cyfarwyddwr Strategol ) ac Arwyn Thomas a Barry Rees (y Penaethiaid Gwasanaeth).

"Mae hefyd yn adlewyrchu'n gadarnhaol ar ymrwymiad cynghorwyr Ceredigion sydd wedi pennu addysg fel un o'n meysydd blaenoriaeth o bwys."

Mae'r adroddiad yn cydnabod y cydweithio agos sy'n bodoli rhwng yr ysgolion a'r gwasanaethau a ddarperir drwy'r t卯m canolog. Cyfeiriwyd yn arbennig at y defnydd effeithiol iawn a wneir o ddata ar lefel disgybl unigol.

Roedd Estyn yn gweld tystiolaeth bod perfformiad pob plentyn yn bwysig a bod lefel y ddeialog broffesiynol rhwng staff yr ysgolion a swyddogion yr awdurdod lleol yn canolbwyntio ar berfformiad disgyblion unigol.

Ystyriwyd bod y system electronig a ddefnyddir gan ganolfan athrawon y cyngor i dracio disgyblion fel enghraifft o adnodd rhagorol sydd wedi'i ddatblygu'n lleol ac wedi galluogi'r lefel hon o drafodaeth a dadansoddiad.