Archeb anferth i Airbus

Disgrifiad o'r llun, Yr A380 yw'r awyren deithwyr fwyaf yn y byd, ond mae'i gwerthiant wedi bod yn is na'r disgwyl

Mae cwmni Airbus wedi cael archeb sylweddol am 20 o'u hawyrennau superjumbo.

Mae'r newyddion yn un gwych i weithwyr eu ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint, lle mae nhw'n cynhyrchu adenydd yr awyrennau.

Fe gyhoeddodd y cwmni awyrennau mai dyma oedd eu hail archeb yn Sioe Awyrennau Singapore.

Fe fydd yr 20 awyren A380 yn cael eu cynhyrchu ar gyfer cwmwni Amedeo.

Mae'r archeb werth tua 拢5 biliwn ac yn hwb anferth i'r cwmni gan bod gwerthiant yr A380 wedi cwympo yn is na disgwyliadau.

Yr A380 yw'r awyren deithwyr fwyaf yn y byd.

Mae disgwyl i'r archeb gael ei darparu rhwng 2016 a 2020.

Diwrnod ynghynt, fe gytunodd cwmni VietJetAir brynu mwy na 90 o awyrennau Airbus A320 gwerth 拢5.5 biliwn.