Cyflwyno mesur cynllunio amgen i 'ddiogelu'r Gymraeg'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymdeithas yr iaith yn dweud nad oes digon o ystyriaeth i'r Gymraeg yn y mesur cynllunio

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno mesur cynllunio amgen ddydd Mawrth, er mwyn "diogelu cymunedau Cymraeg" ac "ehangu ei defnydd ym mhob rhan o Gymru".

Daw'r lansiad yn dilyn mesur drafft cynllunio gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd.

Yn 么l Cymdeithas yr Iaith, nid yw'r mesur hwn yn rhoi unrhyw ystyriaeth i'r Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn ystyried ymatebion i'r mesur.

'Diffyg ystyriaeth'

Dywed y Gymdeithas bod eu mesur amgen wedi ei greu yn dilyn diffyg ystyriaeth o'r iaith yn y mesur cynllunio, a hynny er y pwyslais ar "bwysigrwydd y maes" yn ystod ymgynghoriad y llywodraeth ar sefyllfa'r Gymraeg.

Bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno eu mesur amgen yn y Senedd ym mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Ymysg y newidiadau sy'n cael eu cynnig mae:

  • Gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith iaith;
  • Gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer rhai datblygiadau;
  • Sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol, yn lle cyrraedd targedau tai cenedlaethol wedi ei seilio ar batrymau hanesyddol

Dywedodd llefarydd Cymunedau Cynaliadwy y gymdeithas, Toni Schiavone, bod eu mesur yn rhoi cyfle i'r llywodraeth ddangos eu bod nhw o ddifrif am sicrhau dyfodol y Gymraeg.

"Nawr yw'r amser i aelodau cynulliad o bob plaid i ddangos bod nhw o ddifrif," meddai.

"Mae'n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd ddod.

'Gwella'r system gynllunio'

"Mae ein cynigion ni yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau'n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal 芒 phroblemau sy'n wynebu'r iaith a'r amgylchedd.

"Rydyn ni wedi galw am chwyldroi'r system gynllunio fel rhan o'r chwe newid polisi sydd ei angen er mwyn delio ag argyfwng y Cyfrifiad."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr ymgynghoriad ar y mesur wedi cau yn ddiweddar a'u bod yn ystyried yr ymateb.

"Mae'r mesur drafft yn ceisio gwella'r system gynllunio yng Nghymru er lles pawb beth bynnag iaith y maent yn ei siarad, tra bod y Nodyn Cyngor Technegol, TAN 20, yn ei gwneud hi'n glir mai'r ffordd fwyaf priodol o fewn y system gynllunio i ystyried effaith ar yr iaith Gymraeg yw drwy'r Cynllun Datblygu Lleol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system sy'n cael ei arwain gan gynllun a dylai awdurdodau lleol sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried pan mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu paratoi."