麻豆官网首页入口

Trac rasio: 拢50m o arian cyhoeddus?

  • Cyhoeddwyd
Cylchffordd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwmni sy'n datblygu'r gylchffordd eisoes wedi derbyn 拢2m i greu cynllun

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi darganfod bod datblygwyr sydd am adeiladu trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy yn gofyn am hyd at 拢50m tuag at gost y cynllun gan lywodraethau Cymru a'r DU.

Mae pennaeth y cwmni yn disgrifio'r buddsoddiad posib o 拢30m gan lywodraeth Cymru fel "cyfraniad eithaf bychan".

Mae rhaglen Week In Week out wedi darganfod nad yw Cwmni Datblygu Pennau'r Cymoedd wedi arwyddo cytundeb i ddod 芒 ras beiciau modur y MotoGP i Lyn Ebwy erbyn Medi 2015, er ei addewidion.

Mae'r ras yn rhan ganolog o gynllun y cwmni - cynllun y maen nhw'n honni fydd yn creu 6,000 o swyddi ac yn denu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

'Cyfle enfawr'

Ond mae'r rhaglen yn cwestiynu addewidion y cwmni ers dadorchuddio'r cynllun yn 2011, os y gallan nhw greu gymaint o swyddi.

Mae'n dweud y bydd adeiladu cylchffordd o safon uchel, gwestai, eisteddle, parc technoleg a pharc solar yn creu cyfleoedd enfawr ac yn creu 拢50m i economi Cymru.

Mae'r gylchffordd yn ganolog i'r cynllun - a hebddo, ni fydd unrhyw ddatblygiad ar y safle ac felly dim swyddi.

Gwrthododd llywodraeth Cymru gadarnhau faint o arian cyhoeddus y maent yn bwriadu ei fuddsoddi yn y cynllun. Ond mae llythyr gafodd ei weld gan y rhaglen yn dweud mai 拢30m yw'r swm.

Mae Week In Week Out wedi darganfod bod y cwmni hefyd yn gofyn am 拢20m gan y Trysorlys i danysgrifennu'r cynllun.

Mae'r cwmni eisoes wedi derbyn grant o 拢2m gan lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun.

Ond mae nifer o gwestiynau am os ydyn nhw'n gallu creu 6,000 o swyddi newydd.

6,000 o swyddi?

Yr Athro Garel Rhys, Cadeirydd y Fforwm Cerbydau Modur Cymru ac un o brif economegwyr y diwydiant, oedd yn rhan o sefydlu cysylltiad rhwng y cwmni a swyddogion llywodraeth Cymru.

Tra ei fod yn cefnogi'r syniad, mae cwestiynu'r rhagolygon am swyddi.

Dywedodd: "Mae'n cynyddu disgwyliadau i lefel anghredadwy ac mae angen amodau anghredadwy i gyrraedd 6,000 felly roeddwn i'n meddwl ar y pryd bod o'n wirion.

"Os fyddai modd cael 1000 neu fwy ar bennau'r cymoedd, gwych, ond dydy ffigwr o 6,000 ddim yn gwneud daioni i neb."

Mewn ymateb, dywedodd Prif Weithredwr Datblygu Pennau'r Cymoedd, Michael Carrick: "Mae hynny'n siomedig. Dwi'n meddwl y byddwn ni'n creu llawer mwy o swyddi na hynny."

Rhan hanfodol o'r cynllun yw sicrhau hawliau i gynnal ras MotoGP sy'n denu cynulleidfaoedd byd-eang o hyd at 300m.

Mae'r cwmni wedi dweud eu bod yn bwriadu adeiladu'r gylchffordd mewn pryd i gynnal y digwyddiad ym mis Medi 2015, ond mae'r rhaglen wedi darganfod nad oes unrhyw gytundeb wedi ei wneud gyda'r rheolwyr, Dorna.

Oedi

Ac mae oedi mewn dechrau'r gwaith hefyd oherwydd problemau cynllunio.

Dywedodd y cwmni y byddai'r gwaith yn dechrau ym mis Rhagfyr y llynedd ond oherwydd ei fod yn cael ei adeiladu ar dir comin, mae angen dadgofrestru'r tir a dod o hyd i'r un faint o dir yn rhywle arall cyn dechrau.

Yn 么l yr Arolygaeth Gynllunio, gall y broses gymryd hyd at flwyddyn.

Er hynny mae Mr Carrick yn parhau i fod yn hyderus, ond mae'n gwrthod enwi unrhyw un o'r rhai sydd am fuddsoddi yn y cynllun.

Dywedodd nad oedd 拢30m gan lywodraeth Cymru yn swm mawr o arian cyhoeddus, ac ychwanegodd "rydw i'n meddwl ei fod yn swm eithaf gwylaidd".

Ddydd Mawrth, bydd yr AC Ceidwadol, Antoinette Sandbach yn gofyn am ymchwiliad ac am fwy o dryloywder gan y llywodraeth ynghylch y mater.

Daw'r alwad wedi i'r llywodraeth wrthod gwneud adroddiad i'r penderfyniad i wario 拢2m ar y cynllun yn gyhoeddus.

Gofynnodd i Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas i ymchwilio ar ba sail gafodd y grant ei roi yn 2012.

Dywedodd nad oedd adroddiad i'r grant wedi ystyried pryderon gan berchnogion cylchffyrdd eraill oedd yn rhybuddio mai ychydig iawn sy'n llwyddo i wneud elw.

'Angen ymchwiliad'

Dywedodd Ms Sandbach: "Nid yw'n edrych mewn digon o fanylder os yw honiadau'r cwmni yn gywir, ac mae'r llywodraeth a'r archwilydd wedi dweud ei fod yn un gyda risg uchel, felly mae angen ystyried pa mor fawr yw'r risg neu gallwn golli'r arian yna, sydd yn arian all gael ei wario mewn ffyrdd eraill yng Nghymru."

Mae Week In Week Out wedi darganfod bod y cwmni hefyd yn gofyn am 拢20m gan lywodraeth y DU i roi hyder i fuddsoddwyr.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi'r cynllun ac yn dweud eu bod wedi bodloni gyda'r cynllun busnes.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Hedley McCarthy ei fod yn hyderus y bydd y gylchffordd yn cael ei adeiladu, ond nad oedd yn gwybod os oedd y cwmni wedi sicrhau'r holl arian oedd ei angen, na phwy oedd yn buddsoddi.

Gwrthododd y gweinidog busnes, Edwina Hart, gael ei chyfweld gan y rhaglen. Dywedodd swyddogion nad oedden nhw'n cael trafod buddsoddiad oherwydd rhesymau cyfrinachedd.

Week In Week Out: On The Right Track? Dydd Mawrth, Mawrth 11, 10.35yh, 麻豆官网首页入口 1 Cymru.