Sir G芒r yn derbyn argymhellion iaith

Disgrifiad o'r llun, Yn 2011, roedd 43.9% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg, gostyngiad o 6.4%

Mae Cyngor Sir G芒r wedi penderfynu derbyn argymhellion adroddiad ar yr iaith Gymraeg.

Daeth gr诺p gafodd ei benodi er mwyn edrych ar y sefyllfa i'r casgliad bod angen canolbwyntio ymdrechion ar wyth maes penodol er mwyn atal y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

Dangosodd Cyfrifiad 2011 bod llai na hanner poblogaeth y sir yn siarad yr iaith, am y tro cyntaf.

Yn 么l y gr诺p, mae addysg yn un maes lle dylid gweithredu, drwy geisio sicrhau bod ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg y sir yn troi at ddysgu'n ddwyieithog.

Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell gwneud newidiadau i'r maes cynllunio a cheisio sicrhau bod y cyngor yn gweithredu drwy gyfrwng yr iaith.

Mae bwrdd gwaith y cyngor eisoes wedi cefnogi'r adroddiad.

Cyn y cyfarfod, fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar wal maes parcio Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin gyda'r neges "Cyngor Sir G芒r - Mae'n amser Gweithredu!", a chafodd neges ei dosbarthu i gynghorwyr yn gofyn i'r gweithgor barhau i weithio ar feysydd penodol yn y strategaeth.

Yn dilyn y cyhoeddiad brynhawn dydd Mawrth, dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir G芒r:

"Rydyn ni'n falch fod y gweithgor trawsbleidiol yn mynd i barhau er mwyn cadw ffocws ar y gwaith. Nodwn nad yw'r Cyngor wedi addo mwy na gweithredu rhai materion brys ac nad ydynt wedi rhoi amserlen bendant yn ei lle.

"Disgwyliwn yn awr fod amserlen weithredu mewn lle erbyn y 'Steddfod pryd y bydd llygaid Cymru ar Sir G芒r.

"Mae 115 o ddyddiau nes y byddwn ni'n cynnal Parti Mawr, yn uned y Cyngor Sir ei hun, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli - mwy na digon o amser i'r Cyngor gyhoeddi amserlen i ddangos eu bod o ddifri."